Ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 13:
O ''Deva'' mae'r ffordd yn rhedeg ar gwrs gogledd-orllewinol i gyffiniau [[Dinas Basing]], ar [[Glannau Dyfrdwy|Lannau Dyfrdwy]], ar ôl croesi [[Afon Dyfrdwy]] ei hun ger y bont bresennol tu allan i Gaer. Cafwyd hyd i olion Rhufeinig ger y ffordd ym [[Pentre (Sir y Fflint)|Mhentre]] ([[Sir Fflint]]). O Ddinas Basing try i'r gorllewin ac mae'n parhau felly hyd Segontiwm. Ger [[Llanelwy]] mae'n croesi [[Afon Elwy]] ac [[Afon Clwyd]] ar ôl [[Bwlch|bylchu]] [[Bryniau Clwyd]] ger [[Rhuallt]] (mae'r A55 yn dilyn yr un cwrs yn union). Credir y lleolwyd caer Rufeinig [[Varis]] yn Llanelwy, ond hyd yn hyn mae ei lleoliad yn ansicr.
 
O Ddyffryn Clwyd mae'r ffordd yn codi ac yn croesi'r bryniau isel tua deg milltir o'r arfordir, gan osgoi tir corsiog a choed yr iseldiroedd. Mae'n cyrraedd [[Dyffryn Conwy]] ger [[Eglwysbach]]. Sefydlwyd fferi yn [[Tal-y-Cafn|Nhal-y-Cafn]] i groesi [[Afon Conwy]] a chodwyd caer bwysig ynyng [[Caerhun|Nghaerhun]], yr ochr arall i'r afon.
 
O Gaerhun mae'r ffordd yn codi ac yn ymuno â llwybr [[cynhanes]]yddol, heibio i [[Cromlech|gromlechi]] megis [[Maen y Bardd]] a [[Maen hir|meini hirion]] hynafol i gyrraedd [[Bwlch-y-Ddeufaen]]. (Y bwlch hwnnw oedd y ffordd hawsaf i groesi cadwyn y [[Carneddau]] hyd yn gymharol ddiweddar). O'r bwlch mae'n disgyn heibio i lethrau [[Foel Ganol]] a'i hen gaer Geltaidd ac i lawr y llethrau trwy'r Rhiwiau Uchaf ac Isaf rhwng [[Llanfairfechan]] ac [[Abergwyngregyn]]. Ger y Rhiwiau Uchaf cafwyd hyd i hen garreg filltir Rufeinig sydd yn Amgueddfa Segontiwm bellach; mae'n dwyn enw yr ymerodr [[Decius|Traianus Decius]] ac felly i'w dyddio i [[249]] - [[251]] O.C.