Craig-cefn-parc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mae '''Craig Cefn Parc''' ({{Sain|Craig Cefn Parc.ogg|ynganiad}}) (neu '''Graig-cefn-parc''') yn bentref yn agos i dre [[Clydach]], yn ne [[Cymru]]. Mae'n rhan o [[Cymuned (llywodraeth leol)|gymuned]] [[Mawr]] yn [[Abertawe]]. Saif gwarchodfa natur Cwm Clydach yr [[RSPB]] yn ne'r pentref, yn agos i'r New Inn, ar y ffin rhwng Craig Cefn Parc a Clydach. Mae gan y pentref Swyddfa Bost a siop, tafarn o'r enw'r ''Rock & Fountain Inn'' a neuadd bentref. Ceir hefyd ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yno.
 
Mae Craig Cefn Parc yn enwog am ei hanes [[Maes glo De Cymru|lofaol]]. Yng nghalon Cwm Clydach mae ambell un o'r hen dai glo yn dal i sefyll. Gwelir tram glo yng nganolnghanol y pentref fel cofeb i'r gwaith glo.
 
Ganwyd William Crwys Williams ([[Crwys]]), y bardd enwog o'r [[20g]] yng Nghraig Cefn Parc, ac mae modd gweld 'border bach' chwedl ei gerdd ar ochr llethrau'r cwm. Bardd arall a gafodd ei fagu yng Nghraig Cefn Parc oedd nai Crwys, Gwilym Herber.