Gorymdaith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol Golygiad symudol uwch
 
Llinell 7:
Mae nifer o ddefodau [[Cristnogaeth|Cristnogol]] yn cynnwys gorymdaith. Roeddent yn boblogaidd iawn yn [[yr Oesoedd Canol]].<ref>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/477751/procession |teitl=procession (religion) |dyddiadcyrchiad=6 Medi 2014 }}</ref><ref>{{eicon en}} "[http://www.newadvent.org/cathen/12446c.htm Processions]", ''[[Catholic Encyclopedia]]''.</ref> Mae rhai yn parhau hyd heddiw, er enghraifft yr orymdaith angladdol, neu '[[cynhebrwng|gynhebrwng]]'.
 
Mae'r [[pererindod]] i ddinas sanctaidd [[Mecca]], yr [[Hajj]], yn cynnwys tri gorymdaith defodol: cerdded o amgylch y [[Kaaba]], y daith 'nôl ac ymlaen rhwng bryniau Safa a Marwa, a'r daith o Mina i Fynydd Arafat). Yn ystod Oes Aur [[Islam]] bu'r awdurdodau gwleidyddol yn trefnu ac yn noddi gorymdeithiau er mwyn cysylltu'r llywodraeth â'r calendr Mwslimaidd a bywyd diwylliannol y bobl. Cynhaliwyd gorymdeithiau mawr i nodi [[Eid al-Fitr]] ac [[Eid al-Adha]] ar draws [[y byd Islamaidd]], o [[al-Andalus]] i Swltaniaeth Delhi. Yn yr Oesoedd Canol Diweddar, trefnwyd gorymdeithiau gan [[siariff]]iaid Mecca i nodi pen-blwydd y Proffwyd [[Muhammad]] (Mawlid al-Nabi) ar hyd y ffordd o'r Kaaba i fan geni Muhammad gyda chanhwyllau a llusernau. Cynhaliwyd hefyd ym Mecca gorymdaith hwyliog, gyda cherddorion a rhyfelwyr, yn ystod mis [[Rajab]]. Dan lywodraeth y frenhinlin Fatimid yn [[yr Aifft]], cefnogwyd gorymdeithiau [[Shïa]]idd, er enghraifft yng Ngŵyl Ghadir Khumm, yn ogystal â'r gorymdeithiau [[Swnnïaidd]] i ddathlu [[Ramadan]], y flwyddyn newydd, a gwyliau eraill.<ref>John Turner, "Processions, Religious" yn ''Medieval Islamic Civilization: An Encyclopedia'', golygwyd gan Josef W. Meri (Efrog Newydd: Routledge, 2006), tt. 643–4.</ref>
 
== Gwleidyddiaeth ==