Damascus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
parhau
hinsawdd
Llinell 31:
 
O ddiwedd y [[19g]] ymlaen, datblygodd canolfan weinyddol a masnachol lwyddiannus i'r gorllewin o'r hen ddinas, o amgylch y Barada, wedi'i chanoli ar yr ardal a elwir yn al-Marjeh neu'r "Ddôl". Yn fuan daeth Al-Marjeh yn enw ar yr hyn a oedd yn sgwâr canolog Damascus modern, gyda neuadd y ddinas wedi'i leoli yno. Roedd y llysoedd cyfiawnder, y brif swyddfa bost a gorsaf reilffordd yn sefyll ar dir uwch, ychydig i'r de. Cyn bo hir, dechreuwyd adeiladu y rhan preswyl Ewropeaidd ar y ffordd sy'n arwain rhwng al-Marjeh ac al-Salihiyah. Yn raddol, symudodd canolfan fasnachol a gweinyddol y ddinas newydd tua'r gogledd ychydig tuag at yr ardal hon.
 
Yn yr [[20g]], datblygodd [[maestref]]i newydd i'r gogledd o'r Barada, ac i raddau i'r de, gan ymestyn i fewn i werddon Ghouta.Ym 1956–1957, daeth cymdogaeth newydd Yarmouk yn ail gartref i filoedd o ffoaduriaid [[Palesteina]]idd.<ref>The Palestinian refugees in Syria. Their past, present and future. Dr. Hamad Said al-Mawed, 1999</ref> Roedd yn well gan gynllunwyr dinasoedd warchod y Ghouta cyn belled ag y bo modd. Ar ddiwedd yr 20g roedd rhai o'r prif datblygiadau i'w gweld yn y gogledd, yng nghymdogaeth orllewinol Mezzeh ac yn fwyaf diweddar ar hyd dyffryn Barada yn Dummar yn y gogledd orllewin ac ar lethrau'r mynyddoedd yn Berze yn y gogledd-ddwyrain. Mae ardaloedd tlotach, a adeiladir yn aml heb ganiatad swyddogol, wedi datblygu i'r de o'r brif ddinas.
 
===Hinsawdd===
Mae gan Damascus hinsawdd lled-cras, oer - y math a elwir yn "Bsk" yn system [[Köppen-Geiger]], oherwydd effaith cysgodol glaw y mynyddoedd Gwrth-Libanus a cheryntau'r cefnfor.<ref>{{cite journal|author=M. Kottek|author2=J. Grieser|author3=C. Beck|author4=B. Rudolf|author5=F. Rubel|title=World Map of the Köppen-Geiger climate classification updated|journal=Meteorol. Z.|volume=15|issue=3|pages=259–263|url=http://koeppen-geiger.vu-wien.ac.at/pics/kottek_et_al_2006.gif|doi=10.1127/0941-2948/2006/0130|access-date=1 August 2013|year=2006|archive-url=https://www.webcitation.org/62twqml5g?url=http://koeppen-geiger.vu-wien.ac.at/pics/kottek_et_al_2006.gif|archive-date=2 Tachwedd 2011|url-status=live|bibcode=2006MetZe..15..259K}}</ref><ref>{{cite web
|url=http://www.climates.com/ASIA/PDF/SYR02ASA.pdf
|title=SUNSHINE GUIDE TO THE DAMASCUS AREA, SYRIA
|last=Tyson
|first=Patrick J.
|year=2010
|publisher=climates.com
|access-date=26 Tachwedd 2010
|archive-url=https://web.archive.org/web/20110511211807/http://www.climates.com/ASIA/PDF/SYR02ASA.pdf
|archive-date=11 Mai 2011
|url-status=live
}}</ref> Mae'r hafau'n hir, yn sych ac yn boeth gyda llai o leithder. Mae'r gaeafau'n cŵl ac yn wlyb braidd; anaml y ceir cwymp eira. Byr ac ysgafn yw'r hydref, ond mae ganddo'r newid tymheredd yn sydyn, yn wahanol i'r gwanwyn lle mae'r newid i'r haf yn fwy graddol a chyson. Mae'r glawiad blynyddol oddeutu 130 mm (5 mewn), yn digwydd rhwng Hydref a Mai.
 
 
 
==Cyfeiriadau==