Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Peiriannydd"

Ychwanegwyd 4 beit ,  blwyddyn yn ôl
dim crynodeb golygu
No edit summary
 
Gan amlaf bydd peiriannydd yn weithwyr proffesiynol sy'n dyfeisio, dylunio, dadansoddi, adeiladu a phrofi peiriannau, systemau, strwythurau, teclynnau a deunyddiau cymhleth i gyflawni amcanion a gofynion swyddogaethol wrth ystyried y cyfyngiadau a osodir gan ymarferoldeb, rheoleiddio, diogelwch a chost.<ref>{{Cite web|title=Frequently Asked Questions About Engineering|url=https://web.archive.org/web/20060522214617/http://www.nspe.org/media/mr1-faqs.asp|website=web.archive.org|date=2006-05-22|access-date=2021-03-13}}</ref> Mae'r gair Cymraeg yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw un sy'n dyfeisio, adeiladu, trwsio, defnyddio neu'n arolygu offeryn peirianyddol.<ref>{{Cite web|title=Geiriadur Prifysgol Cymru - peiriannydd|url=https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?peiriannydd|website=geiriadur.ac.uk|access-date=2021-03-13}}</ref> Gellir dod yn beiriannydd trwy dderbyn gradd mewn maes peirianyddol o brifysgol, hyfforddiant technolegol, prentisiaeth, hyfforddiant mewn man gwaith neu hunan hyfforddiant.
 
Mewn rhai gwledydd, megis yr [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]], mae peirianneg yn broffesiwn rheoledig y mae ei ymarfer a'i ymarferwyr wedi'u trwyddedu a'u llywodraethu gan y gyfraith. Yng ngwledydd Prydain does dim rheoleiddio dros y term cyffredinol peiriannydd (nac ''Engineer'', yn [[Saesneg]]) ond i ymarfer fel peiriannydd arbenigol, megis [[peiriannydd sifil]] neu beiriannydd siartredig mae'n rhaid derbyn addysg briodol a/neu gael trwydded a/neu fod yn aelod o gymdeithas broffesiynol briodol.
 
==Peirianwyr arbenigol==