Llangar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B trwsio delwedd
Gwybodlen ac englynion
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle | gwlad = {{banergwlad|Cymru}} | ynganiad = {{wikidata|property|P443}} }}
[[Delwedd:Llangar Church. - geograph.org.uk - 559314.jpg|250px|bawd|Eglwys Llangar]]
 
[[Plwyf]] eglwysig ym mro hanesyddol [[Edeirnion]], gogledd [[Cymru]], yw '''Llangar'''. Mae'n gorwedd yn [[Sir Ddinbych]] heddiw ond bu gynt yn rhan o [[Sir Feirionnydd]]. Prif bentref y plwyf yw [[Cynwyd]].<ref>''O Ferwyn i Fynyllod'' gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 117.</ref>
 
Cofnodir y plwyf yn yr arolwg o [[Sir Feirionnydd|Feirionnydd]] a wnaed ar ran Coron Lloegr yn 1292-3 fel un o chwech yng [[cwmwd|nghwmwd]] [[Edeirnion]].
Llinell 7 ⟶ 8:
 
Canolfan y plwyf oedd y [[llan]] lle ceir [[Eglwys Llangar]] heddiw, tua hanner ffordd rhwng [[Cynwyd]] a Chorwen yn [[Dyffryn Edeirnion|Nyffryn Edeirnion]], ar lan [[Afon Dyfrdwy]]. Bu'r llenor [[Edward Samuel]], gŵr o [[Penmorfa|Benmorfa]] yn [[Eifionydd]] yn wreiddiol, yn berson yno o 1721 tan 1748; aeth un o'i wyrion, [[David Samwell]] (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar fordaith y Capten [[James Cook]] yn 1776-78.
 
==Englynion i Langar==
Meysydd a dolydd sydd deg - hoff lesawl
A phalasau pur, gwiwdeg;
Yn wych iawn yn ychwaneg
Tan Ferwyn yn ddyffryn teg.
 
Odiaeth a pherffaith, ie yw - y Goror
A garaf fi heddiw,
Llangar, plwyf hyfryd ydyw,
Y fan fydd le da i fyw.
 
Ffowc Wynn o Nantglyn (1684)<ref>''O Ferwyn i Fynyllod'' gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 11.</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Plwyfi Cymru]]