Llangar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwybodlen ac englynion
ehangu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle | gwlad = {{banergwlad|Cymru}} | ynganiad = {{wikidata|property|P443}} }}
 
[[Plwyf]] eglwysig ym mro hanesyddol [[Edeirnion]], gogledd [[Cymru]], yw '''Llangar'''. Mae'n gorwedd yn [[Sir Ddinbych]] heddiw ond bu gynt yn rhan o [[Sir Feirionnydd]]. Prif bentref y plwyf yw [[Cynwyd]].<ref>''O Ferwyn i Fynyllod'' gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 117.</ref> Tair nant a bryn yw ei ffiniau: Bryn Bu'r Gelyn yw'r bryn, a gorwedd hwnnw y tu ôl i blasty bychan Bryntirion, ger [[Corwen]]; y dair nant yw: Nant Croes y Wernen (i'r De), Nant Rhydyglafes (i gyfeiriad y [[Bala]]) a Nant Rhyd-y-Saeson yw'r ffin gogleddol (ger Four Crosses a [[Glanrafon]].<ref>''O Ferwyn i Fynyllod'' gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 13.</ref>
 
Cofnodir y plwyf yn yr arolwg o [[Sir Feirionnydd|Feirionnydd]] a wnaed ar ran Coron Lloegr yn 1292-3 fel un o chwech yng [[cwmwd|nghwmwd]] [[Edeirnion]].
Llinell 7:
Gorwedd y plwyf yng nghanol Edeirnion, rhwng plwyfi [[Llandrillo]] a [[Corwen|Chorwen]], gan godi i lethrau'r [[Berwyn]] i'r dwyrain. Am y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol bu'n rhan o [[Teyrnas Powys|Bowys]].
 
Canolfan crefyddol y plwyf am ganrifoedd oedd y [[llan]] lle ceir [[Eglwys Llangar]] heddiw, tua hanner ffordd rhwng [[Cynwyd]] a Chorwen yn [[Dyffryn Edeirnion|Nyffryn Edeirnion]], ar lan [[Afon Dyfrdwy]]. Bu'r llenor [[Edward Samuel]], gŵr o [[Penmorfa|Benmorfa]] yn [[Eifionydd]] yn wreiddiol, yn berson yno o 1721 tan 1748; aeth un o'i wyrion, [[David Samwell]] (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar fordaith y Capten [[James Cook]] yn 1776-78. Mae'n bosib mai llygriad o hen enw'r eglwys (Llan-y-carw-gwyn) yw tarddiad yr enw Llangar.<ref>''O Ferwyn i Fynyllod'' gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 13.</ref>
 
==Englynion i Langar==