Argos (dinas): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Danielt998 (sgwrs | cyfraniadau)
B ychwanegu gwybodlen Wicidata
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle|gwlad={{banergwlad|Gwlad Groeg}}}}
[[Delwedd:Argos City.jpg|bawd|250px|Gweddillion hen theatr Argos]]
 
Mae '''Argos''' ([[Groeg]]: '''Άργος''', ''Árgos,'') yn ddinas yn y [[Peloponnesos]] yng [[Gwlad Groeg|Ngwlad Groeg]], gerllaw [[Nafplio]]. Ceir olion o'r cyfnod [[Neolithig]] yn y cysegr yn Argolis, rhyw 45 o stadia o Argos, i gyfeiriad [[Mycenae]]. Roedd y fangre yma wedi ei chysegru i'r dduwies [[Hera]]. Yn y cyfnod Myceneaidd roedd Argos yn ddinas bwysig, ynghyd â dinasoedd cyfagos [[Mycenae]] a [[Tiryns]]. Ym [[mytholeg Roeg]] mae Perseus yn mynd ag Andromeda i Argos wedi iddynt briodi, ac maent yn sefydlu llinach brenhinol y [[Perseidiaid]] yno.
 
Wedi'r 6g CC. daeth [[Sparta]] yn fwy pwerus, ac effeithiodd hyn ar safle Argos. Roedd cryn elyniaeth rhwng Argos a Sparta, ac ni ymladdodd Argos yn ystod [[Rhyfeloedd Groeg a Persia]]. Yn ystod y [[Rhyfel Peloponnesaidd]] yn y 5g CC. roedd Argos yn bleidiol i [[Athen]] yn erbyn Sparta, ond ni chymerodd lawer o ran yn yr ymladd. Yn y [[12g]] adeiladwyd castell, ''Kastro Larissa'', ar fryn Larissa, safle'r hen Acropolis.
 
[[Image:Demarxeioargou.jpg|bawd|chwith|Y ''demarkheio'' (Neuadd y Ddinas) yn Argos]]
 
Mae dinas Argos yn awr yn brifddinas y dalaith o'r un enw, un o dair talaith yn ''nomos'' [[Argolis]].Yn 2001 roedd y boblogaeth yn 27,550.
 
[[Delwedd:Argos City.jpg|bawd|dim|250px|Gweddillion hen theatr Argos]]
[[ImageDelwedd:Demarxeioargou.jpg|bawd|chwith260px|dim|Y ''demarkheio'' (Neuadd y Ddinas) yn Argos]]
 
[[Categori:Dinasoedd Gwlad Groeg]]