Mamal morol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
llun ychafi
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 7:
 
Amrywia dietau mamaliaid morol yn sylweddol; mae rhai'n bwyta söoplancton, eraill yn bwyta pysgod, sgwid, pysgod cregyn, neu laswellt y môr, ac mae ychydig yn bwyta mamaliaid eraill. Er bod nifer y mamaliaid morol yn fach o gymharu â'r rhai a geir ar dir, mae eu rolau mewn amrywiol ecosystemau yn hynod o bwysig, yn enwedig o ran cynnal a chadw ecosystemau morol, trwy brosesau gan gynnwys rheoleiddio poblogaethau ysglyfaethus. Mae'r rôl hon wrth gynnal ecosystemau yn eu gwneud yn destun pryder arbennig gan fod 23% o rywogaethau mamaliaid morol dan fygythiad ar hyn o bryd.
[[File:Killing fur seals, St Paul Island.jpg|bawd|Dynion yn lladd morloi ffwr gogleddol ar Ynys Saint Paul, Alaska, yn yr [[1890au]].]]
 
Cafodd mamaliaid morol eu hela gyntaf gan bobl frodorol am fwyd ac adnoddau eraill. Lladdwyd llawer hefyd ar gyfer diwydiant masnachol, gan arwain at ddirywiad sydyn ym mhob poblogaeth o rywogaethau a ecsbloetiwyd, e.e. morfilod a morloi. Arweiniodd hela masnachol at [[difodiant|ddifodiant]] '[[Hydrodamalis gigas']]', [[minc y môr]], [[morlew Japan]] a mynach-forlo'r y Caribî. Ar ôl i hela masnachol ddod i ben, mae rhai rhywogaethau, fel y [[Morfil Llwyd]] a morlo eliffant y gogledd, wedi cynyddu mewn niferoedd; i'r gwrthwyneb, mae rhywogaethau eraill, fel morfil ''Eubalaena glacialis'', mewn perygl ofnadwy.<ref name=sedate>{{cite news |title=Scientists Successfully Use Sedation to Help Disentangle North Atlantic Right Whale |author=National Oceanic and Atmospheric Administration |date=2011-01-23 |work=ScienceDaily |access-date=2011-01-27 |url=https://www.sciencedaily.com/releases/2011/01/110122110313.htm }}</ref><ref>{{cite journal | last1 = Taylor | first1 = S. | last2 = Walker | first2 = T. R. | year = 2017 | title = North Atlantic right whales in danger | journal = Science | volume = 358 | issue = 6364| pages = 730–731 | doi=10.1126/science.aar2402| pmid = 29123056 | s2cid = 38041766 }}</ref> Ar wahân i hela, lleddir llawer o famaliaid morol mewn rhwydi oysgod, lle maent yn dod yn gaeth i rwydo sefydlog ac yn boddi neu'n llwgu. Mae mwy o draffig cefnforol gan longau enfawr yn achosi gwrthdrawiadau rhwng llongau cefnfor cyflym a mamaliaid morol mawr. Mae diraddio cynefinoedd hefyd yn bygwth mamaliaid morol a'u gallu i ddod o hyd i fwyd a'i ddal. Gall llygredd sŵn, er enghraifft, effeithio'n andwyol ar famaliaid sy'n adleoli, ac mae effeithiau parhaus cynhesu byd-eang yn dirywio amgylcheddau Arctig.