Mamal morol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
esblygu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 9:
[[File:Killing fur seals, St Paul Island.jpg|bawd|chwith|Dynion yn lladd morloi ffwr gogleddol ar Ynys Saint Paul, Alaska, yn yr [[1890au]].]]
Cafodd mamaliaid morol eu hela gyntaf gan bobl frodorol am fwyd ac adnoddau eraill. Lladdwyd llawer hefyd ar gyfer diwydiant masnachol, gan arwain at ddirywiad sydyn ym mhob poblogaeth o rywogaethau a ecsbloetiwyd, e.e. morfilod a morloi. Arweiniodd hela masnachol at [[difodiant|ddifodiant]] '[[Hydrodamalis gigas']]', [[minc y môr]], [[morlew Japan]] a mynach-forlo'r y Caribî. Ar ôl i hela masnachol ddod i ben, mae rhai rhywogaethau, fel y [[Morfil Llwyd]] a morlo eliffant y gogledd, wedi cynyddu mewn niferoedd; i'r gwrthwyneb, mae rhywogaethau eraill, fel morfil ''Eubalaena glacialis'', mewn perygl ofnadwy.<ref name=sedate>{{cite news |title=Scientists Successfully Use Sedation to Help Disentangle North Atlantic Right Whale |author=National Oceanic and Atmospheric Administration |date=2011-01-23 |work=ScienceDaily |access-date=2011-01-27 |url=https://www.sciencedaily.com/releases/2011/01/110122110313.htm }}</ref><ref>{{cite journal | last1 = Taylor | first1 = S. | last2 = Walker | first2 = T. R. | year = 2017 | title = North Atlantic right whales in danger | journal = Science | volume = 358 | issue = 6364| pages = 730–731 | doi=10.1126/science.aar2402| pmid = 29123056 | s2cid = 38041766 }}</ref> Ar wahân i hela, lleddir llawer o famaliaid morol mewn rhwydi oysgod, lle maent yn dod yn gaeth i rwydo sefydlog ac yn boddi neu'n llwgu. Mae mwy o draffig cefnforol gan longau enfawr yn achosi gwrthdrawiadau rhwng llongau cefnfor cyflym a mamaliaid morol mawr. Mae diraddio cynefinoedd hefyd yn bygwth mamaliaid morol a'u gallu i ddod o hyd i fwyd a'i ddal. Gall llygredd sŵn, er enghraifft, effeithio'n andwyol ar famaliaid sy'n adleoli, ac mae effeithiau parhaus cynhesu byd-eang yn dirywio amgylcheddau Arctig.
 
==Esblygu==
Mae mamaliaid morol yn ffurfio grŵp amrywiol o 129 o rywogaethau sy'n dibynnu ar y cefnfor am eu bodolaeth.<ref name="kasc">{{Cite journal | doi = 10.1371/journal.pone.0019653| pmid = 21625431| title = Current and Future Patterns of Global Marine Mammal Biodiversity| journal = PLoS ONE| volume = 6| issue = 5| pages = e19653| year = 2011| last1 = Kaschner | first1 = K. | last2 = Tittensor | first2 = D. P. | last3 = Ready | first3 = J. | last4 = Gerrodette | first4 = T. | last5 = Worm | first5 = B. | bibcode = 2011PLoSO...619653K | pmc=3100303}}</ref><ref name="pompa">{{Cite journal | last1 = Pompa | first1 = S. | last2 = Ehrlich | first2 = P. R. | last3 = Ceballos | first3 = G. | doi = 10.1073/pnas.1101525108 | title = Global distribution and conservation of marine mammals | journal = Proceedings of the National Academy of Sciences| volume = 108 | issue = 33 | pages = 13600–13605| date = 2011-08-16| pmid = 21808012| pmc = 3158205| bibcode = 2011PNAS..10813600P }}</ref> Maent yn grŵp anffurfiol sydd wedi'u huno dim ond oherwydd eu dibyniaeth ar amgylcheddau morol ar gyfer bwydo.<ref name="jeff">{{cite book|last1=Jefferson|first1=T. A.| last2=Webber|first2=M. A.|last3=Pitman|first3=R. L.|year=2009|title=Marine Mammals of the World A Comprehensive Guide to their Identification|location=London|publisher=Academic Press|isbn=978-0-12-383853-7|pages=7–16|oclc=326418543|edition=1st}}</ref> Er gwaethaf yr amrywiaeth rhyngddynt, o ran anatomeg, y prif ysgogydd yn eu hesblygiad yw gwella eu effeithlonrwydd chwilio a hela am fwyd.<ref>{{Cite journal | doi = 10.1002/ar.20545|pmid=17516441| title = Evolution of marine mammals: Back to the sea after 300 million years| journal = The Anatomical Record| volume = 290| issue = 6| pages = 514–22| year = 2007| last1 = Uhen | first1 = M. D. | doi-access = free}}{{open access}}</ref><ref name=savage/>
 
Mae lefel y ddibyniaeth ar yr amgylchedd morol yn amrywio'n sylweddol yn ôl rhywogaethau. Er enghraifft, mae [[dolffin]]iaid a [[morfil]]od yn gwbl ddibynnol ar yr amgylchedd morol ar gyfer pob cam o'u bywyd; mae morloi yn bwydo yn y môr ond yn bridio ar dir; a rhaid i eirth gwynion fwydo ar dir.<ref name=jeff/>
 
==Cyfeiriadau==