Hadrian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎top: Erthygl newydd using AWB
Llinell 1:
{{Person
{{Gwybodlen person/Wicidata
| fetchwikidata=ALL
| onlysourced=no
Llinell 10:
Ganed Hadrian yn nhref [[Italica]], gerllaw [[Sevilla]] yn ne [[Sbaen]]. roedd yn berthynas i'r ymerawdwr [[Trajan]], a phenodwyd ef yn rhaglaw talaith [[Syria]] pan oedd Trajan yn ymladd yn erbyn y [[Dacia]]id. Wedi i Trajan farw cyhoeddodd gwraig Trajan, [[Pompeia Plotina]] fod yr ymerawdwr wedi mabwysiadu Hadrian fel mab cyn marw ac wedi ei ddewis fel olynydd. Nid oedd pawb yn credu hyn, ond daeth Hadrian yn ymerawdwr.
 
Newidiodd Hadrian bolisi Trajan o ymestyn ffiniau'r [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|ymerodraeth]] a chanolbwyntiodd ar amddiffyn ffiniau'r ymerodraeth fel yr oedd. Gollyngodd ei afael ar rai o'r tiriogaethau a goncrwyd gan Trajan yn [[Dacia]]. Fel rhan o'r un polisi adeiladodd y mur a adwaenir fel [[Mur Hadrian]] ym [[Y Brydain Rufeinig|Mhrydain]]. Ef hefyd a adeiladodd y [[Pantheon]] yn [[Rhufain]].
 
Fel ymerawdwr, treuliodd Hadrian lawer o'i amser yn teithio o amgylch yr ymerodraeth, a bu'n gyfrifol am lawer o adeiladu mewn gwahanol rannau ohoni. Roedd yn hoff iawn o [[Groeg yr Henfyd|ddiwylliant Groeg]], ac adeiladodd deml enfawr i [[Zeus]] yn [[Athen]]. Ceisiodd hefyd ail-adeiladu [[Jeriwsalem]] fel dinas Roegaidd, ond arweiniodd hyn at wrthryfel gan yr [[Iddewon]] dan arweiniad [[Simon bar Kochba]].