William Alexander Madocks: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Nodyn:Person using AWB
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/WicidataPerson | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= cenedl | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
'''William Alexander Madocks''' ([[17 Mehefin]] [[1773]] – Medi [[1828]]) fu'n gyfrifol am ddraenio'r [[Traeth Mawr]] ac adeiladur'r morglawdd a adnabyddir fel y Cob ym [[Porthmadog|Mhorthmadog]] er mwyn adennill tir amaethyddol o'r môr. Roedd yn [[aelod seneddol]] dros [[Boston (Swydd Lincoln)|Boston]], [[Swydd Lincoln]], o [[1802]] hyd [[1820]]. <ref>{{Cite web|title=MADOCKS, WILLIAM ALEXANDER (1773 - 1828), dyneiddiwr, yn caru'r ddrama a'r celfyddydau {{!}} Y Bywgraffiadur Cymreig|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c-MADO-ALE-1774|website=bywgraffiadur.cymru|access-date=2020-03-29}}</ref>
==Cefndir==
Ganwyd Madocks yn [[Llundain]] yn fab i John Madocks, cyfreithiwr a sgweier Ystâd Fron Yw, [[Sir Ddinbych (hanesyddol)|Dinbych]] a Frances (née Whitechurch) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgol bonedd Charterhouse o 1784 hyd iddo gael ei ddiarddel o'r ysgol ym 1789. Aeth i Brifysgol [[Eglwys Crist, Rhydychen]] ym 1790 gan raddio BA ym 1793 ac MA ym 1799. Roedd yn gymrawd [[Coleg yr Holl Eneidiau, Rhydychen]] rhwng 1793 a 1818. <ref>{{Cite web|title=Madocks, William Alexander (1773–1828), property developer and politician|url=https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-17761;jsessionid=415129E570877C82AD2BE4DDC940A066|website=Oxford Dictionary of National Biography|access-date=2020-03-29|doi=10.1093/ref:odnb/17761|date=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
==Gyrfa==
Wedi ymadael a'r brifysgol prynodd Madocks Ystâd Dolmelynllyn, [[Ganllwyd|Y Ganllwyd]], [[Dolgellau]]. Wedi marwolaeth ei dad ym 1798 defnyddiodd ei etifeddiaeth i brynu ystâd mwy o faint, Plas Tan-yr-allt, [[Penmorfa]]. <ref>{{Cite web|title=Plas Tan-Yr-Allt – Getting to know William Alexander Madocks|url=https://eviivo.com/blog/plas-tan-yr-allt-getting-know-william-alexander-maddocks/|website=eviivo|date=2017-04-19|access-date=2020-03-29|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> Roedd rhan fawr o ystâd Tan-yr-allt yn dir corsiog oedd yn cael ei orchuddio gan y môr ar adeg llanw uchel. Ym 1800 adeiladodd clawdd ar draws y gors i gau'r môr allan gan lwyddo i droi 1082 acer o wlypdir yn dir sych. Roddodd hyn blas iddo am y posibiliadau o ennill rhagor o dir o'r môr. Ym 1807 gwnaeth gais llwyddiannus i'r Senedd i freinio iddo ef a'i etifeddion tywodydd [[Y Traeth Mawr|y Traeth Maw]]<nowiki/>r rhwng [[Borth-y-Gest|Borth-y-gest]] a phont [[Bwlch Aberglaslyn|Aberglaslyn]]. Adeiladodd morglawdd milltir o hyd, gyda ffordd ar ei ben (Cob Porthmadog, bellach) gan ennill 3042 acr arall o dir sych. Adeiladodd pentref newydd ger Penmorfa a'i enwi yn [[Tremadog|Nhremadog]] <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3574779|title=TREMADOG - Llais Y Wlad|date=1877-11-30|accessdate=2020-03-29|publisher=Kenmuir Whitworth Douglas}}</ref> er anrhydedd i'w hun. <ref>{{Cite web|title=BBC - Wales History: William Madocks and the Cob at Porthmadog|url=https://www.bbc.co.uk/blogs/waleshistory/2011/12/william_madocks_the_cob_porthmadog.html|website=www.bbc.co.uk|access-date=2020-03-29|date=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
Ym 1820 dechreuodd Madocks i ddatblygu [[Porthmadog]] fel porthladd ar gyfer y diwydiant llechi yn yr ardal ac i fewnforio glo i ogledd Cymru. Bu hefyd yn ymwneud a sefydlu [[Rheilffordd Ffestiniog]], ond oherwydd ymgais i agor rheilffordd ar hyd llwybr arall a gwrthwynebiadau yn y senedd a gan dirfeddianwyr eraill yr ardal ni chafodd byw i weld y rheilffordd yn agor.
 
==Gyrfa Wleidyddol==
Roedd Madocks yn aelod o Gymdeithas y Chwigiaid (rhagflaenwyr [[Plaid Ryddfrydol (DU)|y Blaid Ryddfrydol]] a'r [[Y Democratiaid Rhyddfrydol|Democratiaid Rhyddfrydol]]). Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol etholaeth [[Boston, Swydd Lincoln|Boston]], Swydd Lincoln ym 1802 gan gadw'r sedd hyd 1820. Ar y pryd roedd ymladd etholiadau yn fusnes drud gan fod etholwyr yn disgwyl i ymgeiswyr bod y hael iddynt efo bwyd diod ac arian parod er mwyn sicrhau eu pleidlais. O herwydd gost ei brosiectau yng Nghymru roedd Madocks yn methu fforddio ymladd Boston eto. Safodd yn etholaeth ratach Chippenham gan gadw ei sedd hyd 1826. <ref>{{Cite web|title=MADOCKS, William Alexander (1773-1828), of Tan-yr-allt and Morva Lodge, Caern and Tregunter Hall, Brec. {{!}} History of Parliament Online|url=http://www.histparl.ac.uk/volume/1820-1832/member/madocks-william-1773-1828|website=www.histparl.ac.uk|access-date=2020-03-29}}</ref>
 
== Teulu ==
Ym 1818 priododd Madocks a Eliza Anne, merch ac etifedd Samuel Hughes, asiant tir Tregunter; [[Talgarth]]. Roedd hi'n weddw Roderick Gwynne o Buckland. Bu iddynt un ferch. <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3430314|title=Old Brecknock Families - The Cardiff Times|date=1894-04-21|accessdate=2020-03-29|publisher=David Duncan and William Ward|website=|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
==Marwolaeth==
Erbyn 1826 roedd sefyllfa ariannol Madocks yn fregus. Aeth ar daith i'r cyfandir i osgoi cael ei garcharu gan y sawl oedd yn ei herlyn am ddyledion. Ar ei daith byddai'n llythyru'n aml gyda'i asiantau a chyfreithwyr yng Nghymru gyda syniadau am sut i wella ei sefyllfa ariannol er mwyn iddo gael dychwelyd adre. Ond cyn cael cyfle i ddychwelyd bu farw ym Mharis yn 55 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Père Lachaise. <ref>Dodd, AH. "A History of Caernarvonshire" Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon (1967)</ref>
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 22:
 
{{Rheoli awdurdod}}
 
 
 
 
{{DEFAULTSORT:Maddocks, William}}