Matthew Vaughan-Davies, Barwn 1af Ystwyth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Nodyn:Person using AWB |
|||
Llinell 1:
{{
Roedd '''Matthew Lewis Vaughan-Davies, Barwn 1 af Ystwyth''', ([[17 Rhagfyr]], [[1840]] – [[21 Awst]], [[1935]] yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel [[Aelod Seneddol]] [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] etholaeth [[Ceredigion (etholaeth seneddol)|Ceredigion]] rhwng 1895 a 1921.
== Bywyd Personol ==
Ganwyd Vaughan-Davies yn Nhanybwlch, Ceredigion, yn fab i Matthew Davies, ac Emma (née Davies) ei wraig. Prin oedd ei fanteision addysg, methiant bu ei unig gyfnod o addysg ffurfiol, sef blwyddyn yn [[Ysgol Harrow|Harrow]]. Cafodd ei ddisgrifio fel ''ill-educated, uncultured, ill-informed'' <ref>Morgan yng Ngheredigion Cyf V tud 326
Yn di briod hyd ei fod yn 48 mlwydd oed honnir ei fod wedi cael nifer o berthnasau all briodasol. Ym mysg ei gariadon honedig bu Mrs Powell, [[Nanteos]], a oedd yn nodi bod ei gŵr oddi cartref trwy chwifio lliain gwely o bolyn baner Nanteos a Gladys Ashton o Welston Court [[Sir Benfro]].
== Gyrfa ==
Llinell 11:
== Gyrfa wleidyddol ==
Fel y mwyafrif o fan bonheddwyr gwledig Cymru'r cyfnod roedd Davies yn Dori rhonc. Safodd fel yr ymgeisydd [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Ceidwadol]] yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1885|etholiad cyffredinol 1885]] <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3044363|title=TO THE ELECTORS OF THE COUNTY OFC ARDIGAN - The Aberystwith Observer|date=1885-11-07|accessdate=2019-02-23|publisher=David Jenkins}}</ref> gan golli'n drwm i [[David Davies (Llandinam)|David Davies, Llandinam]] yr ymgeisydd Rhyddfrydol. Safodd fel ymgeisydd Ceidwadol aflwyddiannus eto ym 1889, i geisio sedd Llanfarian yn yr etholiad cyntaf i Gyngor Sir Ceredigion.
Er ei fod yn sgweier ag ystâd o 3,674 erw roedd o'n weddol dlawd, dim ond £974 y flwyddyn oedd incwm rent yr ystâd. Ym 1889 priododd Mary Jenkins, gweddw gefnog o [[Abertawe]] a thrwy'r briodas daeth newid mawr er gwell i'w sefyllfa ariannol <ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4311314|title=ABRRYSTWYTH - Baner ac Amserau Cymru|date=1889-12-14|accessdate=2019-02-23|publisher=Thomas Gee}}</ref>. Roedd Mary Jenkins yn [[Ffeministiaeth|ffeminist]], yn [[Swffraget|swffragét]] ac yn gefnogwr blaenllaw i'r Blaid Ryddfrydol. I ennill ei chalon ac, yn bwysicach byth ei phwrs, bu'n rhaid i Vaughan-Davies newid ei liwiau gwleidyddol.
Llinell 17:
Yn etholiad cyffredinol 1892, rhoddodd Vaughan-Davies ei gefnogaeth i'r Aelod Seneddol Rhyddfrydol [[William Bowen Rowlands]]. Pan roddodd Rowlands wybod i'r gymdeithas Ryddfrydol ei fod yn bwriadu sefyll i lawr o'i sedd daeth yn hysbys yn fuan fod gan Vaughan-Davies ddiddordeb yn yr enwebiad Rhyddfrydol. Gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan ffigurau blaenllaw yn y Gymdeithas Ryddfrydol leol, megis y masnachwr o [[Aberaeron]] J.M. Howell a oedd yn amau ymrwymiad Davies i bolisïau Rhyddfrydol. Amheuaeth a chafodd ei brofi'n gywir yn ddiweddarach gan dystiolaeth am ei ymddygiad tuag at denantiaid ar ei ystâd a roddwyd ger bron ymchwiliad gan Gomisiwn Tir Cymru ar y berthynas rhwng tirfeddianwyr a'u tenantiaid.
Llwyddodd Vaughan-Davies i ennill yr enwebiad er gwaethaf ei wrthwynebwyr. Roedd Cymdeithas Ryddfrydol Ceredigion mewn trafferthion ariannol cyn i Vaughan-Davies, a'i gyfoeth trwy briodas, cael ei ethol yn drysorydd y gangen. Dyma yn ôl John Gibson golygydd radical y [[Cambrian News]] oedd y rheswm dros ei ddewis - rhoi'r geiniog uwchlaw egwyddor.
Enillodd Vaughan-Davies y sedd dros y Rhyddfrydwyr yn etholiad cyffredinol 1895 a chadwodd ei le hyd iddo gael ei ddyrchafu i'r bendefigaeth fel Barwn Cyntaf Ystwyth ym 1921.
Llinell 23:
== Marwolaeth ==
Bu farw'r Arglwydd Ystwyth yn 94 mlwydd oed. Gan na fu iddo blant, bu farw ei deitl gyda fo.
== Cyfeiriadau ==
Llinell 44 ⟶ 43:
[[Categori:Marwolaethau 1945]]
[[Categori:Rhyddfrydiaeth]]
[[Categori:Prosiect Wicipobl]]
|