Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Glyder Fawr"

Ychwanegwyd 9 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
iaith
B
B (iaith)
| maint_darlun =200px
| caption =Creigiau ger Castell y Gwynt ger copa'r Glyder Fawr
| uchder =999m / 3279 troedfedd
| gwlad =Cymru
}}
 
Mae'r '''Glyder Fawr''' yn fynydd yn [[Eryri]], ac ar y ffin rhwng [[Gwynedd]] a [[Conwy (sir)|Sir Conwy]]. Mae'n un o nifer o fynyddoedd dros 3,000 o [[troedfedd|droedfeddi]] yn y [[Glyderau]], er ei fod un medr yn fyr o fod yn gopa 1,000 [[medr]] o uchder. Ceir creigiau mawr ar y copa, yn arbennig y casgliad o greigiau a elwir yn "Castell y Gwynt".
 
Y ffordd orau o gyrraedd y copa yw dilyn y llwybr o [[Llyn Ogwen|Lyn Ogwen]] at [[Llyn Idwal|Lyn Idwal]]. Wedi mynd heibio Llyn Idwal mae'r llwybr yn dringo'n serth heibio'r Twll Du i gyrraedd tir gwastad ger [[Llyn y Cŵn]]. (Sylwer na ddylid ceisio dringo i fyny hafn y Twll Du heb raff.) Gellir troi i'r chwith yma a dilyn llwybr sy'n arwain i gopa'r Glyder Fawr ac yna ymlaen i'r [[Glyder Fach]]. Gellir dringo'r mynydd o [[Pen-y-Pass]] hefyd, neu gellir dringo [[Tryfan]] gyntaf ac yna dilyn y grib i'r Glyder Fach a'r Glyder Fawr, ond mae'r llwybr yma'n anoddach.
 
Yn ôl Syr [[Ifor Williams]], "Gludair" oedd y ffurf gywir ar yr enw. Aeth yn "Glydar" yn nhafodiaith Arfon, yna'n "Glyder". Yr ystyr yw "cruglwyth o gerrig".
 
==ExternalDolen linkallanol==
* Golygfa o'r copa wedi ei gynhyrchu gan gyfrifiadur [http://www.viewfinderpanoramas.org/panoramas/WAL/Glyderfawr-N.gif Tua'r gogledd] [http://www.viewfinderpanoramas.org/panoramas/WAL/Glyderfawr-S.gif Tua'r de] [http://www.viewfinderpanoramas.org/panoramas.html Mynegai]
 
[[Categori:Mynyddoedd a bryniau Eryri]]
 
 
[[en:Glyder Fawr]]