John T. Houghton: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Nodyn:Person using AWB
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/WicidataPerson | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
 
Roedd '''Syr John Theodore Houghton''' CBE FRS CCDdC ([[30 Rhagfyr]] [[1931]] - [[15 Ebrill]] [[2020]]) yn ffisegydd atmosfferig [[Cymru|Cymreig]] o [[Sir Ddinbych (hanesyddol)|Sir Ddinbych]]. Bu’n Athro Ffiseg yr Awyrgylch ym [[Prifysgol Rhydychen|Mhrifysgol Rhydychen]] (1973-83), Pennaeth Canolfan Appleton (ac Is-Bennaeth Labordy Rutherford-Appleton) (1979-83) a Phennaeth Swyddfa Dywydd<ref>{{Cite web|url=https://www.metoffice.gov.uk/about-us/who|title=The Met Office. Who are we ?|date=|access-date=26 Mai 2020|website=Met Office|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> y [[Y Deyrnas Unedig|DU]] (1983-1991). Yn 1988 sefydlwyd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (yr IPCC) gyda Syr John yn Is-Gadeirydd arno<ref name=":0">{{Cite news|url=https://www.theguardian.com/environment/2020/may/08/sir-john-houghton-obituary|title=Sir John Houghton obituary|last=Harvey|first=Fiona|date=8 Mai 2020|work=The Guardian|archive-url=|archive-date=|dead-url=|access-date=26 Mai 2020}}</ref>. Bu wedyn yn Gadeirydd ei grŵp ymgynghorol gwyddonol. Ymddeolodd yn 2002. Yn 2007 dyfarnwyd y [[Gwobr Heddwch Nobel|Wobr Nobel am Heddwch]] i’r IPCC ar y cyd â chyn Is-lywydd yr UD, [[Al Gore]].<ref>{{Cite web|url=https://www.nobelprize.org/prizes/peace/2007/summary/|title=The Nobel Peace Prize 2007|date=2007|access-date=26 Mai 2020|website=The Nobel Prize|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> Roedd Syr John yn bresennol yn [[Oslo]], yn un o cannoedd o wyddonwyr yr IPCC, i dderbyn y Wobr. Ef oedd prif olygydd tri adroddiad cyntaf yr IPCC<ref>{{Cite news|url=https://www.washingtonpost.com/local/obituaries/john-houghton-renowned-climate-scientist-who-led-ipcc-reports-dies-of-coronavirus-at-88/2020/04/20/c6b6819c-81ab-11ea-a3ee-13e1ae0a3571_story.html|title=John Houghton, renowned climate scientist who led IPCC reports, dies of coronavirus at 88|last=Freedman|first=Andrew|date=21 Ebrill 2020|work=The Washington Post|archive-url=|archive-date=|dead-url=|access-date=26 Mai 2020}}</ref>.
 
Yn 1997 sefydlodd, gyda gwyddonwyr eraill, Fenter John Ray (JRI)<ref>{{Cite web|url=https://www.jri.org.uk/|title=The John Ray Initiative|date=|access-date=26 Mai 2020|website=The John Ray Initiative|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>, corff i ddod â Gwyddoniaeth, yr Amgylchedd a’r Ffydd Gristnogol ynghyd<ref name=":1">{{Cite news|url=https://www.churchtimes.co.uk/articles/2020/8-may/gazette/obituaries/obituary-sir-john-houghton|title=Obituary: Sir John Houghton|last=Atkins|first=Andy|date=8 Mai 2020|work=The Church Times|archive-url=|archive-date=|dead-url=|access-date=26 Mai 2020}}</ref>. Syr John oedd ei Gadeirydd cyntaf (ei frawd Paul oedd y Trysorydd) ac yn Llywydd arno hyd ei farwolaeth <ref>"[http://www.jri.org.uk/index.php?option=com_content&task=view&id=112&Itemid=83 DSc for JRI Chairman]" at The John Ray Initiative website</ref> .Roedd yn aelod sefydlol o'r Gymdeithas Ryngwladol Gwyddoniaeth a Chrefydd. Roedd hefyd yn llywydd Sefydliad Victoria.
 
Yn 1972 fe’i hetholwyd yn Gymrodor o’r [[Y Gymdeithas Frenhinol|Gymdeithas Frenhinol]]<ref name=":2">{{Cite web|url=https://royalsociety.org/people/john-houghton-11649/|title=John Houghton|date=1972|access-date=26 Mai 2020|website=The Royal Society|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> ac yn 2010 yn un o Gymrodyr Cychwynnol [[Cymdeithas Ddysgedig Cymru]]<ref>{{Cite web|url=https://www.cymdeithasddysgedig.cymru/fellow/john-houghton-2/|title=Sir John Houghton|date=2010|access-date=26 Mai 2020|website=Cymdeithas Ddysgedig Cymru|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>. Fe’i hurddwyd yn Farchog yn 1991<ref name=":0" />. Enillodd anrhydeddau lu, gan gynnwys Doethuriaeth er Anrhydedd o [[Prifysgol Aberystwyth|Brifysgol Aberystwyth]].<ref>{{Cite news|url=https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/52321658|title=Y gwyddonydd Syr John Houghton wedi marw yn 88 oed|last=|first=|date=26 Mai 2020|work=BBC Cymru Fyw|archive-url=|archive-date=|dead-url=|access-date=17 Ebrill 2020}}</ref>