Lucius Cornelius Sulla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎top: Nodyn:Person, replaced: cymeryd → cymryd using AWB
 
Llinell 1:
{{Person
{{Gwybodlen person/Wicidata
| fetchwikidata=ALL
| onlysourced=no
Llinell 17:
Wedi brwydr ger [[Nola]], dyfarnwyd iddo y ''Corona Obsidionalis'' neu'r ''Corona Graminea'' ("[[Coron Laswellt]]"), a roddid i gadfridog Rhufeinig oedd wedi achub lleng neu fyddin trwy ei ddewrder personol mewn brwydr.
 
Roedd Sulla i fod i arwain byddin Rufeinig i'r dwyrain i ymladd yn erbyn [[Mithridates VI, brenin Pontus]], ond roedd Marius, er ei fod bellach yn heneiddio, yn dymuno cymerydcymryd ei le. Bu ymladd yn Rhufain, a gadawodd Sulla y ddinas a ffoi at ei filwyr. Dychwelodd Sulla i Rufain gyda chwe lleng, a chipio grym. Ffodd Marius i Ogledd Affrica, ac yng ngwanwyn 87 CC glaniodd Sulla yn Dyrrachium i ddechrau ymgyrch yn erbyn Mithridates. Cipiodd ddinas [[Athen]] ac yn [[86 CC]] enillodd frwydr fawr dros Archelaus, cadfridog Mithridates, ym [[Brwydr Chaeronea (86 CC)|Mrwydr Chaeronea]], yna bu'n fuddugoliaethus eto ym [[Brwydr Orchomenos|Mrwydr Orchomenos]].
 
Wedi i Sulla adael am y dwyrain, roedd Marius a [[Lucius Cornelius Cinna]] wedi cipio grym yn Rhufain, er i Marius farw yn fuan wedyn. Gwnaeth Sulla heddwch a Mithridates a dychwelyd i Rufain, lle gorchfygodd gefnogwyr Marius. Ar ddechrau [[81 CC]], apwyntiwyd Sulla i swydd ''dictator'' gan [[Senedd Rhufain]], gan ddod yn feistr ar y ddinas a holl diriogaethau Rhufain heblaw [[Sbaen]], lle roedd [[Quintus Sertorius]] wedi cipio grym. Dywedir i Sulla ddienyddio tua 1,500 o uchelwyr Rhufain, ac i tua 9,000 o bobl farw i gyd. Un o'r rhai a orfodwyd i ffoi o'r ddinas oedd [[Iŵl Cesar]]; roedd gwraig Marius yn fodryb iddo.