Caradog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 9:
Cymerwyd Caradog i Rufain fel carcharor, lle rhoddwyd caniatad iddo roi araith i’r [[Senedd Rhufain|Senedd]]. Ymddengys iddo wneud argraff ffafriol, oherwydd rhyddhawyd ef gan Claudius a chaniatawyd iddo fyw yn Rhufain. Yn ôl yr hanesydd [[Dio Cassius]], pan welodd adeiladau Rhufain holodd “Sut y mae arnoch chi felly, sy’n berchen cymaint, eisiau ein cytiau ni?”
 
Mae'r [[Achresau Harley|achau yn llawysgrif Harley MS 3859]] (tua 1100) yn cynnwys "Caratauc map Cinbelin map Teuhant". Nid yw [[Sieffre o Fynwy]] yn rhoi enw Caradog, ond mae’n cyfeirio yn Lladin at Arviragus, mab ieuengaf Kymbelinus, sy’n ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid wedi marwolaeth ei frawd hynaf Guiderius. Mewn cyfeithiadaucyfieithiadau [[Cymraeg]] o Sieffre, rhoir ei enw fel Gweirydd fab Cynfelyn, a’i frawd fel Gwydyr.
 
Nid oes sicrwydd a oes cysylltiad rhwng y Caradog yma a [[Caradog fab Brân]], sy’n gymeriad yn chwedl [[Branwen ferch Llŷr]] yn y [[Mabinogi]] fel mab [[Bendigeidfran]], sy’n cael ei adael i reoli Prydain tra mae ei dad yn mynd ar ymgyrch i [[Iwerddon]]. Dywedir iddo gael ei ddiorseddu gan [[Caswallon]], sy’n cyfateb i [[Cassivelaunus]], oedd yn byw ganrif ynghynt na Charadog.