Cyfres y Werin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 10:
 
'''''Blodeuglwm o Englynion''''' - [[William John Gruffydd|W. J. Gruffydd]], Cyfres y Gwerin 1, 1920
 
Englynion wedi’i dethol a’i golygu gan W. J. Gruffydd.
 
Yna caed Blodeuglwm o englynion [1920], gyda rhagymadrodd yn egluro damcaniaeth John Rhys mai o'r cwpled elegeiog Lladin y tarddodd yr englyn unodl union (yn groes i farn J. Morris-Jones yn Cerdd Dafod).
 
'''''Dychweledigion''''' ''(Gjengangere)'' Cyfres y Werin 2, 1920
 
Awdur: [[Henrik Ibsen]] (1828-1906). Iaith wreiddiol: [[Norwyeg]]. Cyfieithydd [[Thomas Gwynn Jones|T Gwyn Jones]]
 
Cyhoeddwyd y cyfieithiad hwn gan T. Gwynn Jones o'r ddrama Norwyeg wreiddiol 'Gjengangere' gan Henrik Ibsen fel rhan o Gyfres y Werin (hon yw'r ail gyfrol yn y gyfres honno). Nodir yn y pwt agoriadol 'At werin Cymru' ym mlaen y gyfrol y bwriedir, gyda'r gyfres hon, i ddysgu, helpu, diddanu trigolion Cymru. Eir ati yn y gyfres, felly, i gyfieithu rhai o brif glasuron Ewrop, fel "y gwelo gwerin Cymru pa beth y mae'r byd yn ei feddwl". Yn y 'Rhagair' i'r gyfrol hon, hefyd ym mlaen y gyfrol, sonia'r cyfieithydd bwt am hanes y dramodydd. Pwysleisia mai prif syniad dysgeidiaeth Ibsen oedd Gonestrwydd - "dengys, gydag effaith ofnadwy, fel y mae ofni'r gwir a cheisio'i guddio, hyn yn oed gydag amcan da ac yn enw dyletswydd, yn magu celwydd, rhagrith, ac anfoesoldeb." Sonia hefyd am ei ddewis o deitl i'w gyfieithiad yn yr adran 'Dychweledigion'. Esbonia fod y teitl gwreiddiol yn y Norwyeg yn diffinio ysbrydion neu ddrychiolaethau wedi'u dychwelyd sy'n cerdded eu hen lwybrau ar hyd y byd. Ceisio cyfleu yr ystyr hwnnw, yn hytrach na'r ystyr mwy cyffredin a briodolid i'r gair yn y cyfnod hwnnw, sef "y sawl sydd wedi troi at grefydd", oedd ei amcan wrth ddewis y gair. Gwell ganddo'r gair hwnnw na thermau fel 'ysbrydion' neu 'ddrychiolaethau' i fynegi, yn y Gymraeg, yr hyn a olygir yn y Norwyeg gyda'r gair "gjengangere". Cyhoeddwyd y gyfrol gan William Lewis, Caerdydd.
 
'''''Y Marchog''''' ''(Straeon byrion de Maupassant)'' Cyfres y Werin 3, 1920
 
Awdur: [[Guy de Maupassant]] (1850-1893). Iaith wreiddiol: [[Ffrangeg]]. Cyfieithydd: [[Gwenda Gruffydd]]
 
'''''Y Wers Olaf''''' ''(La Dernière Classe)'' Cyfres y Werin 4, 1921
 
Awdur: [[Alphonse Daudet]], Iaith wreiddiol: Ffrangeg. Cyfieithydd: [[Elizabeth Mary Jones (Moelona)|Moelona]] - Elizabeth (Lizzie) Mary Jones
 
'''''Brenin yr Ellyllon''''' Cyfres y Werin 5, 1921
 
Awdur: [[Nicolai Gogol|Nicolas Gogol]] (1809-1952). Iaith wreiddiol: [[Rwseg|Rwsieg]]. Cyfieithwyr: Gwilym Aneurin Tudor Davies ac [[Henry Lewis]] 

 
Llinell 29 ⟶ 36:
 
'''''Ystorïau Bohemia''''' Cyfres y Werin 6, 1922
 
Awduron: Vrchlický,Yaroslav, Neruda, Jan, Cech,Svatopluk. Ieithoedd gwreiddiol: [[Almaeneg]]/[[Tsieceg]]. Cyfieithydd: [[T. H. Parry-Williams|T.H. Parry-Williams]]
 
Llinell 34 ⟶ 42:
 
'''Geiriau Credadyn''' ''(Paroles d'un Croyant)'' Cyfres y Werin 7, 1923

 
Awdur: [[Lamennais]]. Iaith wreiddiol: Ffrangeg. Cyfieithydd: [[William Ambrose Bebb|WM. Ambrose Bebb]]
 
Llinell 39 ⟶ 48:
 
'''''Y Cybydd''''' ''(L'avare)'' Cyfres y Werin 8, 1921

 
Awdur: [[Molière]]. Iaith wreiddiol: Ffrangeg. Cyfieithydd: Rees, Ifor L


 
Llinell 44 ⟶ 54:
 
'''''Awen y Gwyddyl''''' Cyfres y Werin 9, 1923
 
Cyfres o gyfieithiadau barddonol. Iaith wreiddiol: [[Gwyddeleg]]. Cyfieithydd: T Gwyn Jones
Ceir 'Rhagair y Golygyddion', lle traetha'r Golygyddion am y cyswllt rhwng Cymru ac Iwerddon fel dwy wlad Geltaidd. Trafodant hanes llenyddol Iwerddon, ei safle yn Ewrop dros y canrifoedd, a'i hannibynniaeth yn 20au'r ugeinfed ganrif. Yn ei 'Ragymadrodd' rhydd T. Gwynn Jones drosolwg inni o hanes llenyddiaeth Wyddeleg Iwerddon, o gyfnod yr Hen Wyddeleg i waith beirdd cyfoes â'r cyfieithydd. Mae'r casgliad o gyfieithiadau barddonol yng ngweddill y llyfr yn adlewyrchol o ystod y rhagymadrodd hwn. Daw'r cerddi o'r 'Imram Brain mac Febail', y 'Tochmairc Etáine', ac o'r 'Serglige Conculaind', rhai caneuon am Deirdre, darn o'r 'Reicne Fothad Canainne', cerddi gan Gofraidh Fionn Ó Dálaigh, Maoilín Óg Mac Bruaideadha, Baothghalach Ruadh Mac Aodhagáin, Muireachadh Albanach Ó Dálaigh, Bonaventura Ó hEoghusa, Columcille, Gofraidh Fionn Ó Dálaigh, Toirdhealbhach Óg Mac Donnchadha, Michael Comyn, Macphearson, Maghnus Ó Domhnaill, Pádraigin Haicéad, Brian Mac Conmara, Liam Inglis, Douglas Hyde, Tadhg Ó Donnhadha, Pádraic Mac Piarais, Piaras Béaslaí, Peadar Ó h-Annracháin, Osborn J. Bergin, ac hefyd darnau o 'Agallamh Oisín agus Phádraig', 'Diarmad' ac 'Osian'.
Llinell 52 ⟶ 63:
 
'''''Faust''''' Cyfres y Werin, Rhif 11, 1923
 
Awdur: [[Johann Wolfgang von Goethe]]. Cyfieithwyd gan [[Thomas Gwynn Jones|T Gwynn Jones]]
 
Llinell 58 ⟶ 70:
Johann Christoph Friedrich von Schiller (1295-1805). Mae'r ddrama yn canolbwyntio ar saethwr dawnus o'r Swistir, Gwilym Tel (William Tell). Cyfres y Werin: 12. Yn gefndir i'r cyfan y mae'r frwydr am annibyniaeth yn erbyn yr Ymerodraeth Habsburg yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Rhydd y ddrama hon syniad da am oes ei chyfansoddi ac am y genedl y perthyn ei hawdur iddi. Yn y 'Rhagymadrodd' (t.vii - t.ix), nodir, er ei fod yn waith ar ffurf drama, ac er gwaetha'i ragoriaeth arbennig yn y ffurf honno, gellir dadlau bod y gwaith hwn, ar lawer cyfrif, yn debycach i epig nac ydyw i ddrama gonfensiynol. Ceir yn y ddrama, arwrgerdd genedigaeth cenedl, ac nid yw hanes Tel ei hun namyn episôd ar y ffordd. Serch hyn, er mor wych yw'r hanes, nid oes sicrwydd y bu erioed y fath ddyn â Gwilym Tel. Ymddangosodd cyfieithiad Cymraeg o'r ddrama hon mewn rhannau yn 'Cyfaill yr Aelwyd.' Ysgrifennwyd y ddrama'n wreiddiol rhwng 1803 ac 1804.
 
'''''Doctor ar ei Waethaf''' (Le Médecin malgre lui)'' Cyfres y Werin 13, 1924
 

Awdur: [[Molière]]. Iaith wreiddiol: Ffrangeg. Cyfieithydd: [[Saunders Lewis|Saundes Lewis]] 

Jean-Baptise Poquelin [Molière] (1622-1673). Drama gomedi ysgafn a gyfieithwyd i gan Saunders Lewis. Fe'i hysgrifennu'n wreiddiol yn y flwyddyn 1666. Yn fras, drama ydyw am gymeriad o'r enw Sganarelle, sy'n drafferth parhaus i'w wraig a'i deulu oherwydd ei broblem ag alcohol. Gan hynny, penderfyna ei wraig chwarae tric arno. Penderfyna logi 3 o weision oedd yn gweithio i deulu cyfoethog. rhaid oedd iddynt hwythau ddweud eu bod angen meddyg ar frys. Dywedodd gwraig Sganarelle mai ef oedd meddyg gorau'r wlad, ac er ei fod yn dorrwr coed â phroblem alcoholiaeth, mae'n derbyn y dasg o'i flaen yn hapus. Erbyn diwedd y ddrama, mae Sganarelle yn byw bywyd dedwydd y doctor cyfoethog, llwyddiannus, ar ôl ambell i anffawd! Meddai Saunders yn ei esboniad o'r cyfieithiad (t. 35-36), 'tasg y dramodydd yw sgrifennu Cymraeg llenyddol nad yw ddim yn Gymraeg llyfr.'
Llinell 65 ⟶ 78:
Awdiur: [[Martin Luther King|Martin Luther,]] Ieithoedd gwreiddiol: Almaeneg/[[Lladin]], Cyfieithydd: J Morgan Jones
 
'''''Blodau o Hen Ardd - Epigramau Greog a Lladin.''''' Cyfres y Werin 15
 
Awdur: H J Rose. Ieithoedd gwreiddiol: Groeg/Lladin, Cyfieithydd: [[Thomas Gwynn Jones|T Gwyn Jones]]
Blodau o Hen Ardd: Epigramau Groeg a Lladin. Detholwyd, gyda rhagymadrodd a nodiadau gan H. J. Rose. Troswyd i fydr Cymraeg gan T. G. Jones
 
'<nowiki/>'''Y Briodas Orfod''''' (Le Mariage forcé) Cyfres y Werin Rhif ?, 1926''
 
Awdur: Molière. Iaith wreiddiol: Ffrangeg. Cyfieithydd: Nathaniel H. Thomas
Jean-Baptise Poquelin [Molière] (1622-1673). Drama gomedi ag iddi nodweddion hunangofiannol yr awdur. Darlunnir, yn llym, hunanoldeb dynion, dichell a chreulondeb merched a balchder. Gwisgir y rhain â ffraethineb iaith sy'n datguddio'n ddidrugaredd gymeriadau'r gwahanol bersonau a cheir symudiad bywiog a doniol i'r ddrama. Drama ydyw am wr 53 mlwydd oed oedd yn barod i briodi merch ifanc, ond wrth i nifer o bethau gael eu datgelu, mae'n ailystyried ei gynllun. Cawn ynddi ymdriniaeth o nifer o themâu cyfoes, fel y modd yr ymdrinir â thramorwyr, a chwestiynau mawrion bywyd. Nodweddir trosiad Nathaniel H. Thomas o'r ddrama i'r Gymraeg gan iaith ddoniol a llithrig.
 
'''''Pysgotwr Ynys yr Iâ''' (Pêcheur d'Islande)'' Cyfres y Werin Rhif?, 1927

 
Awdur: Loti, Pierre. Iaith wreiddiol: Frangeg. Cyfieithydd: Nathaniel H. Thomas 


 
Louis Marie Julien Viaud [Pierre Loti] (1850-1923). Swyddog yn y Llynges Ffrengig ac aelod o Academi Ffrainc oedd Louis Marie Julien Viaud, neu 'Pierre Loti', ei ffug-enw llenyddol. Perthyn ei waith i draddodiad ysgol Realaidd Ffrainc, tan arweiniad ffigyrau mor nodedig ag Emile Zola ac eraill. Canmolir yn fawr ei ddisgrifiadau o fyd natur, a'i ddefnydd o iaith seml i fynegi profiadau cymleth. Nofel am fywyd trist ond rhamantaidd pysgotwyr Llydewig yw Pêcheur d'Islande ydyw, a chawn ynddi eu hanes o deithio'n flynyddol i feysydd pysgota penfras Gwlad yr Iâ. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 1866. Yn y gyfrol hon, ceir adran 'At y Darllenydd', lle cyfarcha Nathaniel H. Thomas ei gynulleidfa trwy esbonio pwt am hanes y nofel, a hanes y cyfieithu. Noda y bu i'r cyfieithiad ennill y wobr am gyfieithu yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypwl yn 1924. Dyfynnir beirniadaeth yr Athro Morgan Watkin, Coleg y Brifysgol, Caerdydd, yn yr adran hon o'r gyfrol. Esbonia yntai fod i'r nofel safle hanfodol yn nhwf y genedl Gymreig, gan bod cyfieithu llenyddiaeth yn rhan annatod o fywyd llenyddol cenedl iach. Ymhelaetha ar y grefft o gyfieithu, a thrafodir hynny hefyd gan y cyfieithydd ei hun. Gobaith y beirniad oedd y byddai'r nofel yn ymddangos yn 'Cyfres y Werin' yn fuan wedi'r Eisteddfod, ond nid felly y bu. Fe'i hargraffwyd ac fe'i cyhoeddwyd yn hytrach gan Thomas a Parry, Cyf. Abertawe.