Cyfres y Werin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 63:
'''''Gwilym Tel ('''Wilhelm Tell)'' Cyfres y Werin 12, 1924

::Awdur: [[Friedrich Schiller|Schiller, Johann Cristoph Friedrich Von]]. Iaith wreiddiol: Almaeneg. Cyfieithydd: [[Elfed]] 

::Johann Christoph Friedrich von Schiller (1295-1805). Mae'r ddrama yn canolbwyntio ar saethwr dawnus o'r Swistir, Gwilym Tel (William Tell). Cyfres y Werin: 12. Yn gefndir i'r cyfan y mae'r frwydr am annibyniaeth yn erbyn yr Ymerodraeth Habsburg yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Rhydd y ddrama hon syniad da am oes ei chyfansoddi ac am y genedl y perthyn ei hawdur iddi. Yn y 'Rhagymadrodd' (t.vii - t.ix), nodir, er ei fod yn waith ar ffurf drama, ac er gwaetha'i ragoriaeth arbennig yn y ffurf honno, gellir dadlau bod y gwaith hwn, ar lawer cyfrif, yn debycach i epig nac ydyw i ddrama gonfensiynol. Ceir yn y ddrama, arwrgerdd genedigaeth cenedl, ac nid yw hanes Tel ei hun namyn episôd ar y ffordd. Serch hyn, er mor wych yw'r hanes, nid oes sicrwydd y bu erioed y fath ddyn â Gwilym Tel. Ymddangosodd cyfieithiad Cymraeg o'r ddrama hon mewn rhannau yn 'Cyfaill yr Aelwyd.' Ysgrifennwyd y ddrama'n wreiddiol rhwng 1803 ac 1804.
 
 
'''''Doctor ar ei Waethaf''' (Le Médecin malgre lui)'' Cyfres y Werin 13, 1924

::Awdur: [[Molière]]. Iaith wreiddiol: Ffrangeg. Cyfieithydd: [[Saunders Lewis|Saundes Lewis]] 

::Jean-Baptise Poquelin [Molière] (1622-1673). Drama gomedi ysgafn a gyfieithwyd i gan Saunders Lewis. Fe'i hysgrifennu'n wreiddiol yn y flwyddyn 1666. Yn fras, drama ydyw am gymeriad o'r enw Sganarelle, sy'n drafferth parhaus i'w wraig a'i deulu oherwydd ei broblem ag alcohol. Gan hynny, penderfyna ei wraig chwarae tric arno. Penderfyna logi 3 o weision oedd yn gweithio i deulu cyfoethog. rhaid oedd iddynt hwythau ddweud eu bod angen meddyg ar frys. Dywedodd gwraig Sganarelle mai ef oedd meddyg gorau'r wlad, ac er ei fod yn dorrwr coed â phroblem alcoholiaeth, mae'n derbyn y dasg o'i flaen yn hapus. Erbyn diwedd y ddrama, mae Sganarelle yn byw bywyd dedwydd y doctor cyfoethog, llwyddiannus, ar ôl ambell i anffawd! Meddai Saunders yn ei esboniad o'r cyfieithiad (t. 35-36), 'tasg y dramodydd yw sgrifennu Cymraeg llenyddol nad yw ddim yn Gymraeg llyfr.'