Cyfres y Werin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 52:
'''''Awen y Gwyddyl''''' Cyfres y Werin 9, 1923
::Cyfres o gyfieithiadau barddonol. Iaith wreiddiol: [[Gwyddeleg]]. Cyfieithydd: T Gwyn Jones
::Ceir 'Rhagair y Golygyddion', lle traetha'r Golygyddion am y cyswllt rhwng Cymru ac Iwerddon fel dwy wlad Geltaidd. Trafodant hanes llenyddol Iwerddon, ei safle yn Ewrop dros y canrifoedd, a'i hannibynniaeth yn 20au'r ugeinfed ganrif. Yn ei 'Ragymadrodd' rhydd T. Gwynn Jones drosolwg inni o hanes llenyddiaeth Wyddeleg Iwerddon, o gyfnod yr Hen Wyddeleg i waith beirdd cyfoes â'r cyfieithydd. Mae'r casgliad o gyfieithiadau barddonol yng ngweddill y llyfr yn adlewyrchol o ystod y rhagymadrodd hwn. Daw'r cerddi o'r 'Imram Brain mac Febail', y 'Tochmairc Etáine', ac o'r 'Serglige Conculaind', rhai caneuon am Deirdre, darn o'r 'Reicne Fothad Canainne', cerddi gan Gofraidh Fionn Ó Dálaigh, Maoilín Óg Mac Bruaideadha, Baothghalach Ruadh Mac Aodhagáin, Muireachadh Albanach Ó Dálaigh, Bonaventura Ó hEoghusa, Columcille, Gofraidh Fionn Ó Dálaigh, Toirdhealbhach Óg Mac Donnchadha, Michael Comyn, Macphearson, Maghnus Ó Domhnaill, Pádraigin Haicéad, Brian Mac Conmara, Liam Inglis, [[Douglas Hyde]], Tadhg Ó Donnhadha, [[Pádraig Pearse|Pádraic Mac Piarais]], Piaras Béaslaí, Peadar Ó h-Annracháin, Osborn J. Bergin, ac hefyd darnau o 'Agallamh Oisín agus Phádraig', 'Diarmad' ac 'Osian'.