Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cyfres y Werin"

Ychwanegwyd 34 beit ,  8 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
 
Sefydlwyd y gyfres yn wreiddiol o dan olygyddiaeth [[Ifor L Evans]] ac [[Henry Lewis]], Cwmni Cyhoeddi Addysgol, Caerdydd.
Roedd y llyfrau’n gyfieithiadau i Gymraeg o waith llenyddol clasurol fel [[Descartes]], [[Henrik Ibsen|Ibsen]], [[Molière]], [[Friedrich Schiller|Schiller]] a, [[Johann Wolfgang von Goethe|Goethe]], gan ysgolheigion mawr y cyfnod fel: [[T.H. Parry-Williams]], [[Thomas Gwynn Jones|T Gwyn Jones]], [[William Ambrose Bebb|WM. Ambrose Bebb]] a [[Saunders Lewis]].
 
Roedd hefyd cyfieithiadau o straeon byrionawduron o [[Iwerddon]] a [[Tsiecoslofacia]] - y ddwy wlad oedd newid ennill eu hannibyniaeth wleidyddol ac yn ceisio ail-adfer eu hieithoedd a llenyddiaeth. Rhywbeth a oedd o ddiddordeb mawr i'r byd llenyddol Cymraeg y cyfnod.
 
==Llyfrau Cyfres y Werin==
'''''Awen y Gwyddyl''''' Cyfres y Werin 9, 1923
::Cyfres o gyfieithiadau barddonol. Iaith wreiddiol: [[Gwyddeleg]]. Cyfieithydd: T Gwyn Jones
::Ceir 'Rhagair y Golygyddion', lle traetha'r Golygyddion am y cyswllt rhwng Cymru ac Iwerddon fel dwy wlad Geltaidd. Trafodant hanes llenyddol Iwerddon, ei safle yn Ewrop dros y canrifoedd, a'i hannibynniaeth yn 20au'r ugeinfed ganrif. Yn ei 'Ragymadrodd' rhydd T. Gwynn Jones drosolwg inni o hanes llenyddiaeth Wyddeleg Iwerddon, o gyfnod yr Hen Wyddeleg i waith beirdd cyfoes â'r cyfieithydd. Mae'r casgliad o gyfieithiadau barddonol yng ngweddill y llyfr yn adlewyrchol o ystod y rhagymadrodd hwn. Daw'r cerddi o'r 'Imram Brain mac Febail', y 'Tochmairc Etáine', ac o'r 'Serglige Conculaind', rhai caneuon am Deirdre, darn o'r 'Reicne Fothad Canainne', cerddi gan Gofraidh Fionn Ó Dálaigh, Maoilín Óg Mac Bruaideadha, Baothghalach Ruadh Mac Aodhagáin, Muireachadh Albanach Ó Dálaigh, Bonaventura Ó hEoghusa, Columcille, Gofraidh Fionn Ó Dálaigh, Toirdhealbhach Óg Mac Donnchadha, Michael Comyn, Macphearson, Maghnus Ó Domhnaill, Pádraigin Haicéad, Brian Mac Conmara, Liam Inglis, [[Douglas Hyde]], Tadhg Ó Donnhadha, [[Pádraig Pearse|Pádraic Mac Piarais]], Piaras Béaslaí, Peadar Ó h-Annracháin, Osborn J. Bergin, ac hefyd darnau o 'Agallamh Oisín agus Phádraig', 'Diarmad' ac '[[Oisín|Osian]]'.
 
 
2,477

golygiad