Le Corbusier: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Tagiau: Golygiad cod 2017
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
parhau
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 33:
 
Ym mis 1907, gwnaeth ei daith gyntaf y tu allan i'r Swistir, gan fynd i'r [[Eidal]]; yna'r gaeaf hwnnw teithiodd drwy [[Budapest]] i [[Fienna]], lle arhosodd am bedwar mis a chwrdd â [[Gustav Klimt]] a cheisio, heb lwyddiant, cwrdd â [[Josef Hoffmann]].{{Sfn|Journel|2015|page=48}} Yn [[Fflorens]], ymwelodd â Charterhouse Florence yn [[Galluzzo]], a wnaeth argraff ddofn arno. "Byddwn i wedi hoffi byw yn un o'r hyn roedden nhw'n ei alw'n gelloedd," ysgrifennodd yn ddiweddarach. "Dyma oedd yr ateb ar gyfer math unigryw o dai gweithwyr, neu'n hytrach ar gyfer paradwys ddaearol."<ref>Letter to Eplattenier in Dumont, ''Le Corbusier, Lettres a ses maitres'', vol. 2, pp. 82–83.</ref> Teithiodd i [[Paris|Baris]], ac yn ystod un-deg-pedwar mis rhwng 1908 a 1910 bu’n gweithio fel drafftiwr yn swyddfa’r pensaer Auguste Perret, arloeswr y defnydd o '[[concrit|goncrit-wedi’i-atgyfnerthu]]' mewn adeiladu preswyl, a phensaer y gwaith Art Deco ''Théâtre des Champs- Élysées''. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rhwng Hydref 1910 a Mawrth 1911, teithiodd i'r [[Almaen]] gan weithio am bedwar mis yn swyddfa Peter Behrens, lle roedd [[Ludwig Mies van der Rohe]] a [[Walter Gropius]] hefyd yn gweithio ac yn dysgu.{{Sfn|Journel|2015|pages=32–33}}
 
Yn 1911, teithiodd eto gyda'i ffrind August Klipstein am bum mis;<ref>{{Cite book|title=Klip and Corb on the road|last=Žaknić|first=Ivan|publisher=Scheidegger & Spiess|year=2019|isbn=978-3-85881-817-1|location=Zürich}}</ref> y tro hwn, teithiodd i'r [[Balcanau]] gan ymweld â [[Serbia]], [[Bwlgaria]], [[Twrci]], [[Gwlad Groeg]], yn ogystal â [[Pompeii]] a [[Rhufain]], gan lenwi bron i 80 o lyfrau brasluniau'n gofnod o'r hyn a welodd - gan gynnwys llawer o frasluniau o'r [[Parthenon]], y byddai ei ganmol, yn ddiweddarach, yn ei gwaith ''Vers une architecture'' (1923). Soniodd am yr hyn a welodd yn ystod y daith hon mewn llawer o'i lyfrau, ac yn bwysicach, roedd yn destun ei lyfr olaf, sef ''Le Voyage d'Orient''.{{Sfn|Journel|2015|pages=32–33}}
 
Yn 1912, dechreuodd ei brosiect mwyaf uchelgeisiol: tŷ newydd i'w rieni, hefyd wedi'i leoli ar ochr bryn coediog (ger La-Chaux-de-Fonds). Roedd tŷ Jeanneret-Perret yn fwy na'r lleill, ac mewn arddull fwy arloesol; roedd y llinellau llorweddol yn cyferbynnu’n ddramatig â’r llethrau alpaidd serth, ac roedd y waliau gwyn a’r diffyg addurn yn cyferbynnu’n llwyr â’r adeiladau eraill ar ochr y bryn. Trefnwyd y rhannau mewnol o amgylch pedair colofn y salon yn y canol, gyda'r tu mewn agored fel rhyw ragymadrodd i'r hyn y byddai'n ei greu yn ei adeiladau diweddarach.
 
Roedd y prosiect yn ddrytach i'w adeiladu nag a ddychmygodd; gorfodwyd ei rieni i symud o'r tŷ o fewn deng mlynedd, ac adleoli mewn tŷ llai. Fodd bynnag, arweiniodd y tŷ hwn at gomisiwn i adeiladu fila hyd yn oed yn fwy mawreddog fyth - ym mhentref cyfagos Le Locle, ar gyfer gwneuthurwr clcoiau, Georges Favre-Jacot. Dyluniodd Le Corbusier y tŷ newydd mewn llai na mis. Dyluniwyd yr adeilad yn ofalus i ffitio ei safle ar ochr y bryn, ac roedd y cynllun mewnol yn helaeth ac wedi'i ddylunio o amgylch cwrt ar gyfer y golau mwyaf posibl, ac yn gwbwl wahanol i'r tŷ traddodiadol.{{Sfn|Journel|2015|pages=48–9}}
 
==Cyfeiriadau==