Thomas Carew: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: ac hefyd → a hefyd using AWB
B dol
 
Llinell 4:
Ganwyd yn West Wickham, [[Caint]], a chafodd ei addysg yng [[Coleg Merton, Rhydychen|Ngholeg Merton, Rhydychen]] ac yn [[y Deml Ganol]], un o [[Ysbytai'r Frawdlys]]. Aeth i'r cyfandir i weithio'n ysgrifennydd mewn llysgenadaethau Lloegr yn [[Fenis]], [[yr Hâg]], a [[Paris|Pharis]]. Dychwelodd i Loegr yn 1630 i fod yn was at ford [[Siarl I, brenin Lloegr|y Brenin Siarl I]]. Roedd yn gyfaill i [[Ben Jonson]] a [[John Donne]], a gwelir dylanwad y ddau lenor hwnnw ar farddoniaeth Carew.<ref name=EB/>
 
Fe'i ystyrir yn y cyntaf o'r beirdd Cafaliraidd, er iddo farw yn [[Llundain]] yn 1640, cyn i [[Rhyfeloedd Cartref Lloegr|Ryfeloedd Cartref Lloegr]] rhwng y Brenhinwyr a'r Seneddwyr gychwyn o ddifrif. Yn ogystal â'i farddoniaeth serch llys sy'n nodweddiadol o'r traddodiad Cafaliraidd, gwelir dylanwad y Metaffisegwyr, yn bennaf Donne, yn ei waith a hefyd Eidalwyr megis [[Giambattista Marino]]. Ei gwaith hiraf ydy'r gerdd erotig "Rapture". Ysgrifennodd hefyd [[masc|fasc]] o'r enw ''Coelum Britannicum'' a berfformiwyd yn 1634, gyda cherddoriaeth gan [[Henry Lawes]].<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Thomas-Carew |teitl=Thomas Carew |dyddiadcyrchiad=25 Gorffennaf 2019 }}</ref>
 
== Cyfeiriadau ==