Rhyfeloedd Indo-Tsieina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cyfres o ryfeloedd yn Ne Ddwyrain Asia o 1947 hyd 1979 oedd '''Rhyfeloedd Indo-Tsieina''' ({{iaith-vi|Chiến tranh Đông Dương}}), a ymladd...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:20, 11 Hydref 2011

Cyfres o ryfeloedd yn Ne Ddwyrain Asia o 1947 hyd 1979 oedd Rhyfeloedd Indo-Tsieina (Fietnameg: Chiến tranh Đông Dương), a ymladdwyd gan genedlaetholwyr Fietnamaidd yn erbyn lluoedd Ffrengig, Americanaidd, a Tsieineaidd. Cyfeiriodd y term "Indo-Tsieina" at Indo-Tsieina Ffrengig yn wreiddiol, oedd yn cynnwys Fietnam, Laos, a Chambodia, a chyfeiriodd yn hwyrach at yr ardal ddaearyddol. Y pedwar rhyfel oedd:

  • Rhyfel Cyntaf Indo-Tsieina (a elwir yn Rhyfel Indo-Tsieina yn Ffrainc a'r Rhyfel Ffrengig yn Fietnam), a ddechreuodd wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd a pharhaodd hyd at drechiad y Ffrancod ym 1954. Wedi ymgyrch hir o wrthsafiad, datganodd lluoedd y Viet Minh fuddugoliaeth wrth i luoedd Japaneaidd a Llywodraeth Vichy ildio yn y Gogledd tua diwedd yr Ail Ryfel Byd. Adenillodd Ffrainc reolaeth dros y diriogaeth a pharhaodd y Viet Minh i ymladd yn erbyn y Ffrancod gyda chymorth o Tsieina a'r Undeb Sofietaidd, ac roeddent yn llwyddiannus wrth wthio'r gwladychwyr o'r wlad.
  • Ail Ryfel Indo-Tsieina (a elwir yn Rhyfel Fietnam yn y Gorllewin a'r Rhyfel Americanaidd yn Fietnam), a gychwynnodd fel gwrthdaro rhwng llywodraeth De Fietnam (gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau) a'i gwrthwynebwyr comiwnyddol, y Viet Cong (ffrynt rhyddid yn y De) a Byddin Gogledd Fietnam (gyda chymorth Tsieina a'r Undeb Sofietaidd). Cychwynnodd yn hwyr y 1950au a pharhaodd hyd 1975. Bu gwrthdaro hefyd yng Nghambodia rhwng y llywodraeth (gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau) a'r Khmer Rouge comiwnyddol (Rhyfel Cartref Cambodia, 1967–1975) ac yn Laos rhwng y llywodraeth, eto gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau, a'r Pathet Lao comiwnyddol (Rhyfel Cartref Laos, 1962–1975).
  • Rhyfel Cambodia a Fietnam, a ddilynodd Ail Ryfel Indo-Tsieina. Goresgynwyd Cambodia gan Fietnam a ddymchwelwyd llywodraeth y Khmer Rouge. Parhaodd y rhyfel o fis Mai 1975 hyd Ragfyr 1989.
  • Trydydd Ryfel Indo-Tsieina (a elwir hefyd yn Rhyfel Tsieina a Fietnam), rhyfel byr o Chwefror-Mawrth 1979 rhwng Gweriniaeth Pobl Tsieina a Gweriniaeth Sosialaidd Fietnam. Goresgynwyd Fietnam gan Tsieina fel cosb am ymyrru yng Nghambodia.