Gafr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 45:
===Geifr dof, fferal a gwyllt, ===
Cafodd yr afr wyllt ''Capra hircus'' ei hyweddu (''domesticate'') gyntaf mae'n debyg yn Oes y [[Neolithig]] yn ardal y [[Cilgant Ffrwythlon]], yr [Irac]] fodern. Fe ddaeth gyda'r bobl hynny, pobl yr Oes Cerrig Newydd, i Ewrop a'r gorllewin fel anifail fferm yn darparu tannwydd (bloneg), croen, llaeth a chynhyrchion y llaethdy, a chig. Fe barhaodd yn y cyflwr yna hyd yn weddol ddiweddar ar ffermydd mynydd tlawd Cymru. Dyma gofnod o ddyddlyfr Owen Edwards 1820 o ardal [[Penmorfa]], [[Tremadog]]: "Dydd Mercher: Diwrnod lled oer yn Meirioli ac yn llithrig iawn. Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudy Newydd i’r Gelli wastad. Owen yn nol y Geifr o Greigiau Tanrallt yn dechreu rhewi cyn nos.” Doedd y tywydd oer ddim yn
rhwystro OE rhag anfon Owen arall (mab mae’n debyg, neu was?) i nôl y geifr o greigiau cyfagos. Y diwrnod wedyn, 20 Ionawr cofnododd: “Dydd Iau, 19 Ionawr. Diwrnod teg distaw wedi rhewi’n bur galed ac yn llithrig iawn. Y Meibion un yn golchi’r Buchod rhag llau a’r llall yn cneifio’r Dynewid [heffrod]. Yn gwerthu Bwch gafr a thri o Funod i Sion Morris am Ddeg swllt ar hugain” (sef £1/10/-, 7 swllt+ yr un)". Mae'r pris yn cymharu'n ffafriol â phris maharen neu hwrdd ar y pryd[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/cylchgrawn-158.pdf].
 
Mae'n debyg mai dyma'r cyfnod y bu i'r geifr fferm hyn raddol ddianc a throi yn ôl i'r gwyllt troi'n [[fferal]]. Eu disgynyddion yw'r 'geifr gwyllt' sydd ar fynyddoedd Eryri heddiw (y Rhinogydd, y Glyderau, y Carneddau a'r Wyddfa). Mae mân yrroedd hefyd ar Yr Eifl, Rhobell Fawr a Chraig yr Aderyn. Mae llawer hefyd wedi difa gan y ''War Ag'' yn ystod yr ail ryfel byd <ref>Whitehead, G.K. (1972) The Wild Goats of Great Britain and Ireland Cyh. David & Charles[https://www.cabdirect.org/cabdirect/abstract/19720105407]</ref>