Hathor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Pethau | fetchwikidata=ALL }}
 
[[Delwedd:Egypt.Hathor.jpg|200px|bawd|Cerflun o Hathor yn Amgueddfa Luxor]]
Un o [[duwies|dduwiesau]] mwyaf yr [[Hen Aifft]] oedd '''Hathor''' (neu '''Athyr'''), a gysylltid â'r [[Llwybr Llaethog]]. Roedd y [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid]] yn ei huniaethu ag [[Aphrodite]], duwies [[serch]] ym [[mytholeg Roeg]]. Yn wreiddiol, ystyrid Hathor yn ferch i [[Ra]], brenin y [[duw]]iau, ac yn wraig i [[Horus]], duw'r [[haul]] a brawd y dduwies [[Isis]]; mae modd dehongli ei henw fel "trigfa Horus" am ei bod, fel duwies yr Awyr, yn amgau Horus yn ei mynwes bob nos ac yn rhoi genedigaeth iddo eto yn y bore.
Llinell 11 ⟶ 13:
 
Prif gysegrfan Hathor oedd [[Teml Dendera|eu theml yn Dendera]], yn yr [[Aifft Uchaf]] rhwng [[Abydos]] a [[Luxor]]. Yno fe'i haddolid gyda'i fab [[Ihy]] "Canwr y ''Sistrum''." Dethlid gwyliau crefyddol mawr yn Dendera. Y pwysicaf oedd i groesawu'r Flwyddyn Newydd, penblwydd Hathor.
 
Y tu hwnt i'r [[Aifft]] ei hun roedd Hathor yn cael ei haddoli yng [[Pwnt|Ngwlad Pwnt]] (''Punt'': [[Ethiopia]] efallai) ac felly fe'i gelwid yn "Feistres gwlad Pwnt"; mae'n bosibl mai o'r rhanbarth hono y daeth i'r Aifft. Yn y [[Sinai]] roedd hi'n cael ei haddoli dan yr enw "Meistres gwlad Mefket" ac yn [[Ffenicia]] fel "Arglwyddes [[Byblos]]".
 
Llinell 20 ⟶ 22:
[[Categori:Duwiesau]]
[[Categori:Mytholeg Eifftaidd]]
[[Categori:Yr Hen Aifft]]