Francisco Jiménez de Cisneros: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
B Castilla
Llinell 1:
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=yes | dateformat = dmy | image = Cisneros1.jpg | caption = Portread o'r Cardinal Francisco Jiménez de Cisneros. | nationality=Castilla}}
Esgob a gwleidydd [[Sbaenwyr|Sbaenaidd]] oedd '''Francisco Jiménez de Cisneros''' ([[1436]] – [[8 Tachwedd]] [[1517]]) a fu ddwywaith yn rhaglyw [[Coron CastiliaCastilla]], ym 1506 ac o 1516 i 1517.<ref>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Francisco-Cardenal-Jimenez-de-Cisneros |teitl=Francisco Jiménez de Cisneros |dyddiadcyrchiad=23 Mawrth 2021 }}</ref>
 
Ganed Gonzalo Jiménez de Cisneros yn Torrelaguna, CastiliaCastilla, yn fab i gasglwr trethi o [[hidalgo]]. Astudiodd ym [[Prifysgol Salamanca|Mhrifysgol Salamanca]]. Wedi iddo gael ei ordeinio, treuliodd y cyfnod o 1459 i 1466 yn [[Rhufain]], ac yno daeth yn gyfarwydd â syniadau [[dyneiddiaeth y Dadeni|dyneiddiol]] newydd. Nid oedd yn hoff o'r dyneiddwyr yn [[Llys y Pab]], er iddo edmygu eu dysg. Derbyniodd ganiatâd oddi ar y [[Pab Pawl II]] i feddu'r swydd gyntaf ar gael yn Archesgobaeth Toledo. Gwrthodai'r llythyr hwnnw gan yr Archesgob Alfonso de Carillo, a chafodd Jiménez ei garcharu o 1473 i 1479 am fynnu ei hawl. Ym 1482 penodwyd Jiménez yn ficer cyffredinol Sigüenza gan y Cardinal Pedro González de Mendoza, ond ym 1484 ymddiswyddodd Jiménez ac aeth yn fynach yn [[Urdd Sant Ffransis]] yn San Juan de los Reyes, Toledo, gan gymryd yr enw Fray Francisco.
 
Ym 1492, ar gyngor Mendoza, penodwyd Jiménez yn gyffeswr i'r [[Isabel I, brenhines CastiliaCastilla|Frenhines Isabel I]], ac enillai dylanwad fel cynghorydd crefyddol a gwleidyddol yn y llys brenhinol. Ym 1495 fe olynodd Mendoza yn Archesgob Toledo, ac yn ei swydd aeth ati i ddiwygio'r glerigiaeth yn Sbaen. Datganodd sawl gorchymyn yn Synodau Alcalá (1497) a Talavera (1498), a gyhoeddasant ar ffurf [[holwyddoreg]] syml, gan orfodi clerigwyr i fyw yn eu plwyfi, i fynychu'r gyffes, ac i bregethu'r efengyl bob Sul, ac yn gwahardd yr arfer o ordderchaeth. Gorfodwyd hefyd i'r urddau mynachaidd lynu at eu diofrydau. Digiodd yr uchelwyr eglwysig wrth y diwygiadau hyn, ac apeliasant at y Frenhines Isabel ac at Rufain am ymyrraeth. Ffoes 400 o fynachod o [[Andalwsia]] i Ogledd Affrica, gyda'u gordderchwragedd, a throesant yn Fwslimiaid. Yn y pen draw, enillai'r rheolau newydd eu plwyf ym mywyd eglwysig Sbaen. Penderfynodd Jiménez y byddai'n gorfodi'r [[Morisgiaid]] yn [[Granada]] i droi'n Gristnogion, yn groes i gyngor yr Archesgob Hernando de Talavera i roi addysg Gristnogol iddynt a'u cristioneiddio felly. Nid oedd y Morisgiaid yn fodlon â'r drefn newydd, a bu gwrthryfel ganddynt ym 1499–1500. Dechreuodd Jiménez gynllunio ar gyfer prifysgol yn Alcalá de Henares ym 1498 i ddiwygio bywyd deallusol yr eglwys yn Sbaen. Agorwyd y brifysgol o'r diwedd ym 1508, gyda diwinyddion yn darlithio ar bynciau [[Tomistiaeth]], [[Scotyddiaeth]], ac [[enwoliaeth]] yn ogystal ag ieithoedd y Dwyrain.
 
Yn sgil marwolaeth y Frenhines Isabel ym 1504, cefnogodd Jiménez hawl ei gŵr gweddw, [[Ferdinand II, brenin Aragón]], i Goron CastiliaCastilla. Er gwaethaf, bu'n rhan o Gytundeb Salamanca, a ddatganodd [[Philip I, brenin CastiliaCastilla|Philip, Dug Bwrgwyn]] yn Frenin CastiliaCastilla. Wedi marwolaeth Philip ym 1506, pan oedd Ferdinand yn [[Teyrnas Napoli|Napoli]], sefydlwyd llywodraeth yng Nghastilia dan raglywiaeth Jiménez er mwyn atal yr uchelwyr a oedd yn dymuno rhoi'r goron i'r [[Maximilian I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig|Ymerawdwr Maximilian I]]. Ym 1507, penodwyd Jiménez yn Uchel Chwilyswr ac yn gardinal gan y Brenin Ferdinand. Anogodd Jiménez ymgyrchoedd milwrol yng Ngogledd Affrica (1505–10), gan ddarparu arian o bwrs yr archesgobaeth, a chipiwyd sawl porthladd, gan gynnwys [[Oran]], gan luoedd CastiliaCastilla. Er gwaethaf, tynnwyd sylw Ferdinand gan ymgyrchoedd yn yr Eidal, a gwrthododd y brenin gefnogi cynllun Jiménez i orchfygu Gogledd Affrica gyfan drwy groesgad.
 
Yn sgil marwolaeth Ferdinand ym 1516, Jiménez oedd rhaglaw unwaith eto ar Goron CastiliaCastilla, a bu'n rhaid iddo gyflafareddu rhwng diddordebau'r uchelwyr a'r dinasoedd, a'r Castiliaid a'r Aragoniaid. Gweithiodd Jiménez i ennill cydnabyddiaeth i hawl [[Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig|Siarl, Dug Bwrgwyn]] i'r goron. Bu farw Jiménez yn Roa de Duero, wedi iddo sicrhau yr olyniaeth.
 
== Cyfeiriadau ==