Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ferrando II, brenin Aragón"

B
manion
(#wici365)
Tagiau: 2017 source edit
 
B (manion)
Tagiau: 2017 source edit
Ganed yn Sos, [[Teyrnas Aragón]], yn fab i'r Tywysog Chuan – mab [[Ferrando I, brenin Aragón|y Brenin Ferrando I]] – a'i ail wraig Juana Enríquez, gor-or-wyres [[Alfonso XI, brenin Castilla]]. Bu Chuan yn Frenin Navarra drwy etifeddiaeth ei wraig gyntaf, y Frenhines Blanche I, a fu farw ym 1441. Brawd hŷn Chuan oedd [[Alfonso V, brenin Aragón]], a gwasanaethodd Chuan yn is-gadfridog yn Aragón tra'r oedd Alfonso yn treulio'r rhan fwyaf o'i deyrnasiad yn yr Eidal. Esgynnodd Chuan II i goron Aragón yn sgil marwolaeth Alfonso V ym 1458. Wedi cyfnod o olyniaeth ansicr, ym 1461 enwodd Chuan ei fab Ferrando yn etifedd eglur i'w holl deyrnasoedd a thiroedd. Cyfarwyddwyd ei addysg yn drylwyr gan ei dad er mwyn ei dreiddio yn syniadaeth [[dyneiddiaeth y Dadeni|y dyneiddwyr]] a'i hyfforddi wrth wleidydda a milwra. Ysgrifennodd Chuan draethodau ar bwnc gwladweinyddiaeth at ei fab, a rhodd iddo brofiad o lywodraethu pan oedd yn llanc. Er nad oedd yn fyfyriwr astud, roedd yn hoff o gerddoriaeth leisiol ac offerynnol ac yn noddi'r celfyddydau. Brwydrodd Ferrando ym myddin Aragón yn ystod [[Rhyfel Cartref Catalwnia]] (1462–72); bu Jean II, Dug Lorraine, yn drech na Ferrando yn Viladamat yn Hydref 1466, ond cafodd Ferrando fuddugoliaeth yn Berga ym Medi 1468. Dyrchafwyd Ferrando gan ei dad yn Frenin Sisili yn 16 oed, ym 1468, er mwyn gwella'r siawns o gael ei dderbyn gan lys brenhinol Castilla.<ref name=Britannica/>
 
Priododd Ferrando â'r Dywysoges Isabel, hanner-chwaer [[Enrique IV, brenin Castilla]], yn [[Valladolid]] ar 19 Hydref 1469. Nod yr undeb oedd i gysylltu llys Aragón â Choron Castilla, ac i gadarnhau hawl Isabel i'r orsedd. Er gwaethaf cymhellion gwleidyddol y dyweddïo, cafodd Ferrando ac Isabel berthynas gariadus ond eiddig. Ar ddechrau'r briodas, bu Ferrando yn aml ar grwydr yn nhrefi Castilla neu yn ôl yn Aragón, yn pwyso ar gynghreiriaid pendefigaidd ac yn brwydro ar faes y gad. Digiodd Ferrando fywyd cysurus ei wraig yn y cyfnod hwn, a byddai'n mercheta ar ei deithiau ac yn cenhedlu o leiaf dwy ferch anghyfreithlon. Cawsant bump o blant: [[Isabel, brenhines Portiwgal|Isabel]] (1470–98), [[Juan, Tywysog Astwrias|Juan]] (1478–97), [[Juana I, brenhines Castilla|Juana]] (1479–1555), [[María, brenhines Portiwgal|María]] (1482–1517), a [[Catrin o Aragón|Catalina]] (1485–1536). Yn sgil marwolaeth Enrique IV heb epil ar 11 Rhagfyr 1474, ansicr oedd olyniaeth Coron Castilla. Yn [[Segovia]] drennydd, datganodd Isabel ei hunan yn Frenhines Castilla a León, a rhuthrodd Ferrando yno i wasanaethu yn frenin cydweddog iddi. Gwrthryfelodd cefnogwyr yr ymhonwraig [[Joanna la Beltraneja]] – merch honedig Enrique IV, a gwraig [[Afonso V, brenin Portiwgal]] – gyda chymorth [[Teyrnas Portiwgal|Portiwgal]] a [[Teyrnas Ffrainc|Ffrainc]], yn erbyn Isabel a FerdinandFerrando yn [[Rhyfel Olyniaeth Castilla]] (1475–79). Yn sgil Cytundeb Alcáçovas, cydnabuwyd Isabel I a FerdinandFernando V yn gyd-deyrn ar Castilla a León. Yn yr un flwyddyn, 1479, esgynnodd Ferrando i orsedd Aragón wedi marwolaeth ei dad Chuan II.
 
Ers cychwyn y cyd-deyrnasiad, ymdrechodd Ferrando ac Isabel i atgyfnerthu safle'r [[Eglwys Gatholig]] yn Castilla, er mwyn unioni'r sefyllfa grefyddol ar draws Sbaen ac i ennill cefnogaeth oddi ar Rufain. Sefydlwyd [[Chwilys Sbaen]] ym 1478 i erlid anghredinwyr, ac ym 1492 cyhoeddwyd Gorchymyn Alhambra ym 1492 i yrru'r [[Iddewon]] allan o deyrnasoedd Castilla ac Aragón. Ym 1482, cychwynnodd Ferrando ar ymgyrch ddeng mlynedd yn erbyn [[Emirad Granada]], i gwblhau'r ''[[Reconquista]]'' a gyrru'r [[Mwriaid]] ymaith o [[Penrhyn Iberia|Benrhyn Iberia]]. Ar 2 Ionawr 1492 ildiodd y Mwriaid a chyfeddiannwyd tiroedd Granada yn rhan o Deyrnas Castilla. Yn fuan wedi gorchfygiad Granada, rhoddwyd cefnogaeth Ferrando ac Isabel i fordeithiau [[Cristoforo Colombo]] ar draws [[Cefnfor yr Iwerydd]]. Oherwydd ei ymdrechion dros y ffydd, a'i ymyrraeth yn ne'r Eidal, urddwyd Ferrando gyda'r teitl anrhydeddus "y Catholig" gan y [[Pab Alecsander VI]] ar 2 Rhagfyr 1496, a gelwir Ferrando ac Isabel yn "y Teyrnoedd Catholig".<ref name=Britannica>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/Ferdinand-II-king-of-Spain |teitl=Ferdinand II, king of Spain |dyddiadcyrchiad=4 Ebrill 2021 }}</ref>
 
Bu farw ei etifedd, y Tywysog Juan, ym 1497, a'i ferch hynaf y Dywysoges Isabel y flwyddyn nesaf. Dioddefodd y Dywysoges Juana o wallgofrwydd, ac ym 1504 bu farw'r Frenhines Isabel. Daeth y cyd-deyrnasiad dros Castilla a León i ben yn sgil marwolaeth ei wraig, ond gwasanaethodd Ferrando yn rhaglyw oherwydd afiechyd meddwl y Frenhines Juana. I atgyfnerthu ei rym, ailbriododd Ferrando â Germaine de Foix, nith i Frenin Ffrainc, ym 1505. Yn sgil y sgism a ddilynodd [[Pumed Cyngor y Lateran]] ym 1512, meddiannwyd [[Teyrnas Navarra]] gan Ferrando a'i ymgorffori'n rhan o Goron Gastilla. Dechreuodd ei iechyd ddirywio ym 1513, ac aeth Ferrando ati i sicrhau olyniaeth ei ŵyr, [[Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig|Carlos]]. Yn Ionawr 1516 cychwynnodd Ferrando ar daith i Granada, ac ym mhentref Madrigalejo, [[Extremadura]], y bu farw yn 63 oed. Yn ôl ei ewyllys, fe'i claddwyd ger Isabel yn ninas [[Granada]].
69,273

golygiad