Chwarel Cwmorthin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 15:
Gadawodd 350 tunnell o lechi’r chwarel ym 1862, ac erbyn 1876, 12,500 tunnell.<ref>Isherwood, Graham (1982). Cwmorthin Slate Quarry. Dolgellau: Merioneth Field Study Press</ref> Crewyd terasau o gerrig i ddwyrain y chwarel. Cafodd y chwarel enw gwael am ei amodau gwaith; adnabuwyd y chwarel fel ‘The Slaughterhouse’ yn lleol.<ref>[http://www.goes.org.uk/assets/Journals/2008_GOES_Journal_1.pdf Cwmorthin Slate Mine; cyhoeddwr:The Great Orme Mine Exploration Society; blwyddyn:2008]</ref> Bu farw 21 o chwarelwyr rhwng 1875 a 1893. Yn dilyn y Deddf Metalliferous Mines, 1872, roedd rhaid i bob pwll cadw cofnodion o’u gwaith, adrodd am farwolaethau, cadw manylion o’r dynion a bechgyn ar waith yno, ac allbwn y pwll. Dadlodd Cwmorthin, fel rhai eraill, fod chwareli oeddynt yn hytrach na chwareli, felly doedd y Deddf ddim yn berthnasol iddynt. Roedd achos llys yn erbyn Cwmorthin ym 1875, a phenderfynwyd bod pwll oedd o.<ref>Isherwood, Graham (1982). Cwmorthin Slate Quarry. Dolgellau: Merioneth Field Study Press</ref>
 
===Y Cwmni newydd Cwmorthin===
Ffurfiwyd cwmni newydd ym 1876. Diflanodd ffermdy Cwmorthin Isaf o dan wastraff. Adeiladwyd tai gan rhai gweithwyr y cwmni yn [[Dolrhedyn|Nolrhedyn]], uwchben [[Tan-y-Grisiau]].{{sfn |Isherwood |1982 |pp=5,7}} Roedd cwmnïau eraill yn gweithio o dan ddaear o ochr arall y bryn, ac roedd dadlau yn eu erbyn. Roedd cytundeb ym 1876. Ffurfiwyd Cwmni Chwareli Llechi Oakeley Cyf i reoli’r chwareli eraill ym 1884 ac roedd cytundeb rhyngddynt yn ystod yr un flwyddyn.{{sfn |Isherwood |1982 |p=9}} Cyflogwyd dros 500 o ddynion ym 1882, a chynhyrchwyd llechi mewn 3 melin, 2 yn ddefnyddio ynni dŵr ac un ynni stêm. Roedd tua 50 llif a 50 peiriant trin. Syrthiodd rhai ardaloedd gwaith yng Nghwmorthin ym 1884, yn gwagu Llyn Bach.Aeth cynhyrchu i lawr o 11,600 tunnell ym 1884 i 6,900 ym 1886. Roedd hi’n amhosibl cyrraedd hanner y pwll. Roedd rhaid agor siambrau newydd is o Lyn Cwmorthin, ac oedd hynny’n gostus. Aeth y cwmni i’r wal ym 1888.{{sfn |Isherwood |1982 |t=9}}
 
 
===Y Cwmni Newydd Llechi Cymreig===