Alex Sanders (Wiciad): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Creu |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 16:27, 9 Ebrill 2021
Ocwltydd Seisnig ac Archoffeiriad y grefydd Neo-baganaidd o'r enw Wica oedd Alex Sanders (6 Mehefin 1926 – 30 Ebrill1988). Ganed Sanders yn Orrell Alexander Bibby, hefyd a gelwir gan ei enw crefft yn Verbius. Sefydlodd Sanders draddodiad Wicaidd o'r enw Wica Alecsandraidd yn y 1960au. O dras dosbarth gweithiol, dechreuodd Alex, yn ddyn ifanc, weithio fel mediwm mewn Eglwysi Ysbrydol. Symudodd ef ymlaen i astudio ac i ymarfer dewiniaeth seremonïol. Ym 1963, cafodd e ei ynydu i mewn i Wica Gardneraidd ac yna aeth e ymlaen i sefydlu ei gwfen ei hun. Wrth sefydlu'r cwfen cyntaf hwn, cynhwysodd ef dechnegau dewiniaeth seremonïol ynddo. Honnodd ef iddo gael ei ynydu gan ei fam-gu Gymreig, Mary Bibby (née Roberts), yn blentyn, ond mae ymchwil ddiweddar wedi gwrthbrofi'r honiad hwn.[1] Yn ystod y 1960au, ymddangosodd ef yn y papurau ac ar gyfryngau eraill yn aml, gan gynnwys nifer o raglenni dogfen. Priododd ef â dynes llawer iau o'r enw Maxine Sanders, a dechreuodd y bobl a ynydwyd ganddo ei alw yn "Frenin y Gwrachod". Nid oedd ambell i Wrach Gardneraidd yn hoff iawn o hyn, gan gynnwys Patricia Crowther ac Eleanor Bone, ac felly gwrthodont ef. Ynghyd a Maxine Sanders ac Archoffeiriadesau eraill, datblygodd Alex ei draddodiad Wicaidd. Yn y 1970au a'r 1980au hwyr, sefydlodd ef grŵp dewiniaeth seremonïol o'r enw Ordine Della Luna, cyn iddo farw.
Orrel Alexander Sanders | |
---|---|
Alex Sanders, dan wisgo gynau defodol | |
Ganwyd | Orrell Alexander Carter 6 Mehefin 1926 Birkenhead, Lloegr |
Bu farw | 30 Ebrill 1988 Sussex, England | (61 oed)
Gwaith | Wiccan Priest |
Plant | Paul a Janice (gyda Doreen); Maya Alexandria a Victor Mikhael (gyda Maxine) |
Rhieni | Hannah Jane Bibby; Orrell Alexander Carter |
Nodiadau
- ↑ Wibberley, C. (2018).
Cyfeiriadau
- Crowther, Patricia (1998). One Witch's World. London: Robert Hale.
- Farrar, Stewart (1983). What Witches Do. Phoenix Publishing. ISBN 0-919345-17-4.
- Wibberley, C. (2018). Report on the Ancestry of Alex Sanders 1926-1988 [ar-lein]. Ar gael: https://www.alexandrianwitchcraft.org/report-on-the-ancestry-of-alex-sanders-1926-1988