Elinor Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 16:
Wedi blwyddyn o wneud y gwaith, ganwyd ei merch [[Heledd Cynwal]] yn 1975 a'i bwriad oedd dod yn fam lawn-amser. Yna cynigiwyd swydd iddi fel cyflwynydd newyddion ar raglen ''[[Y Dydd (rhaglen newyddion)|Y Dydd]]''. Aeth i weithio ar y rhaglen am dri diwrnod yr wythnos gan ddibynnu ar gymydog i edrych ar ôl ei phlentyn. Yn yr un cyfnod, roedd yn cyflwyno rhai rhaglenni plant a'r rhaglen gylchgrawn prynhawn i ferched - ''Hamdden''.
 
Wedi dyfodiad [[S4C]], aeth y contract rhaglenni newyddion i [[BBC Cymru]] felly daeth ei swydd yn HTV i ben. Er hynny, cynigiodd HTV waith iddi yn cyflwyno sioeau eraill. Cychwynnodd gyda rhaglen deithio. Yn ddiweddarach cyflwynodd sioe sgwrsio ei hun, ''Elinor''. Darlledwyd y fersiwn Cymraeg ar [[S4C]] a'r un Saesneg ar HTV Wales, lle cyfwelodd nifer o enwogion fel [[Geraint Evans (canwr opera)|Geraint Evans]], [[Humphrey Lyttelton]], [[Kenneth Williams]], [[Anthony Hopkins]], [[Jeff Banks]] a [[Ruth Madoc]]. Yn y 1990au, cyflwynodd raglenni eraill yn Saesneg fel '''On The Road With Elinor''.
 
Ar S4C, daeth yn gyflwynydd ar y rhaglen gylchgrawn ''[[Heno]]''. Yn 1988, daeth yn gyflwynydd ar y rhaglen newydd ''[[Prynhawn Da|P'nawn Da]]'' (a ail-enwyd yn Wedi 3 yn 2006). Penderfynodd adael y rhaglen yn 2011 pan oedd yn 65 mlwydd oed. Cyflwynodd ei rhaglen olaf ar ddydd Gwener, 2 Medi 2011.<ref>{{dyf newyddion|url=https://www.walesonline.co.uk/lifestyle/showbiz/elinor-jones-life-tv-presenter-1808534|teitl=Elinor Jones on her life as a TV presenter|cyhoeddwr=WalesOnline|dyddiad=2 Medi 2011|dyddiadcyrchu=10 Ebrill 2021}}</ref>