Arabeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
+gramadeg
+ tafod(ieithoedd)
Llinell 155:
* مَكْتَبَةٌ ''maktabatun'' 'llyfrgell, siop lyfrau'
* ac ati.
 
== Ieithoedd neu Dafodieithoedd ==
[[Delwedd:Arabic Dialects ar.svg|bawd|Gwahanol fathau o Arabeg yng Ngogledd Affrica a'r Dwyrain Canol]]
Mae cymaint o amrywiaeth rhwng gwahanol fathau o Arabeg fod rhai ieithyddion yn eu hystyried yn ieithoedd ar wahân. Er hynny, o ran yr iaith ysgrifenedig, defnyddir Arabeg Modern Safonol yn gyffredinol, ac Arabeg y Corân trwy'r byd i gyd.
 
=== Grwpiau Tafodieithol ===
 
* Arabeg [[yr Aifft]] (oddeutu 55 miliwn o siaradwyr)
* Arabeg y [[Lefant]] (tua 21 miliwn o siaradwyr) yn [[Libanus]], [[Syria]], [[Gwlad Iorddonen|Gwlad Iorddonen,]] [[Palesteina|Palesteina,]] [[Cyprus]], a [[Twrci|Thwrci.]]
* Arabeg y [[Maghreb]], neu "Darija" (oddeutu 70 miliwn o siaradwyr) ym [[Moroco]], [[Algeria|Algeria,]] [[Tiwnisia|Tiwnisia,]] a [[Libia]]. Mae perthynas agos gyda'r iaith [[Malteg|Falteg]] hefyd.
* Arabeg [[Irac]] (oddeutu 32 miliwn o siaradwyr yn Irac, gyda rhagor yn nwyrain Syria a de-orllewin [[Iran]]).
* Arabeg [[Khūzestān]] yn Iran
* Arabeg [[Khorosan]] yn Iran
* Arabeg Swdan (tua 17 miliwn o siaradwyr yn [[Swdan]] a de'r Aifft)
* Arabeg Juba yn [[De Swdan|Ne Swdan]] ac yn rhannau deheuol Swdan
* Arabeg [[Gwlff Persia|y Gwlff]] (oddeutu 4 miliwn o siaradwyr), yn [[Coweit]], [[Bahrain]], rhannau o [[Oman|Oman,]] arfordir dwyreiniol [[Sawdi Arabia]] a rhannau o'r [[Yr Emiradau Arabaidd Unedig|Emiradau Arabaidd Unedig]] a [[Qatar]], yn ogystal a [[Bushehr]] a [[Hormozgan]] yn Iran.
* Arabeg Oman, a siaradir yng nghanolbarth y wlad.
* Arabeg [[Hadhramaut]] (oddeutu 8 miliwn o siaradwyr) yn Hadhramaut ac ar wasgar.
* Arabeg [[Iemen]] (oddeutu 15 miliwn o siaradwyr yn Iemen a de [[Sawdi Arabia]]). Mae'n debyg i Arabeg y Gwlff.
* Arabeb [[Najd]] neu Bedawi (10 miliwn o siaradwyr). Yn ogystal â'r siaradwyr yn Sawdi Arabia, dyma iaith mwyafrif dinasyddion [[Qatar]]
* Arabeg [[Hijaz]] (6 miliwn o siaradwyr), gorllewin Sawdi Arabia
* Arabeg y [[Sahara]], a siaradir yn rhannau o Algeria, [[Niger]] a [[Mali]]
* Arabeg Baharna (600,000 o siaradwyr), ymysg y [[Shïa]] yn [[Bahrain]] a [[Qatif]], a rhywfaint yn Oman. Mae'n wahanol i Arabeg y Gwlff mewn sawl ffordd.
* Iddew-Arabeg, neu Qәltu. Wrth i Iddewon mudo i [[Israel]], lleihaodd defnydd Iddew-Arabeg rhannau eraill o'r byd Arabeg ei iaith, ac mae bellach dan fygythiad.
* Arabeg [[Tsiad]] (hefyd yn rhannau o Swdan, De Swdan, [[Gweriniaeth Canolbarth Affrica|Gweriniaeth Canolbarth Affrica,]] [[Niger]], [[Nigeria]] a [[Camerŵn]])
* Arabeg [[Canolbarth Asia]], dan fygythiad yn [[Wsbecistan]], [[Tajicistan]] ac [[Affganistan]].
 
== Ymadroddion Cyffredin ==