Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd"

B
dol
B (cat)
Tagiau: 2017 source edit
B (dol)
Tagiau: 2017 source edit
Gwlad yng [[Canolbarth a Dwyrain Ewrop|Nghanolbarth]] a [[Dwyrain Ewrop]] oedd '''y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd''' a fodolai o 1569 i 1795. Ffurfiwyd y [[ffederasiwn]] [[deuarchaeth|deuarchaidd]] drwy gyfuno [[Teyrnas Gwlad Pwyl (1385–1569)|Teyrnas Gwlad Pwyl]] ac [[Uchel Ddugiaeth Lithwania]]. Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd oedd un o wladwriaethau mwyaf Ewrop yn ystod [[y cyfnod modern cynnar]], ac yn cynnwys bron 400,000 milltir sgwâr a rhyw 11 o bobl ar ei heithaf yn nechrau yr 17g. Yn ffurfiol, cafodd ei alw gan yr enw hir '''Teyrnas Gwlad Pwyl ac Uchel Ddugiaeth Lithwania''' ({{iaith-pl|Królestwo Polskie i Wielkie Księstwo Litewskie}}, {{iaith-lt|Lenkijos Karalystė ir Lietuvos Didžioji Kunigaikštystė}}, {{iaith-la|Regnum Poloniae Magnusque Ducatus Lithuaniae}}), neu '''Gymanwlad y Ddwy Genedl''' (Pwyleg: ''Rzeczpospolita Obojga Narodów'', Lladin: Res Publica Utriusque Nationis). Defnyddiwyd yr enw Gwlad Pwyl yn aml i ddisgrifio'r holl Gymanwlad.
 
Gwlad aml-ethnig ac amlieithog oedd y Gymanwlad, gan gynnwys [[Pwyliaid]], [[Lithwaniaid]], [[Rwtheniaid]], [[Almaenwyr]], [[Iddewon]], a chymunedau bychain o [[Tatariaid|Datariaid]], [[Armeniaid]], ac [[Albanwyr]]. Roedd hefyd sawl crefydd, gan gynnwys [[yr Eglwys Gatholig]], [[Protestaniaeth]], [[yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol]], [[Iddewiaeth]], ac [[Islam]]. Bu ambell gymuned yn meddu ar rywfaint o hunanlywodraeth, er enghraifft Cyngor y Pedair Gwlad a oedd yn arfer y gyfraith Iddewig.
72,561

golygiad