Môr Caspia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Daearyddiaeth 2
BDim crynodeb golygu
Llinell 6:
[[Delwedd:Caspian Sea Khezershahr beach.jpg|bawd|chwith|320px|Traeth Khezeshahr, Môr Caspia]]
 
Y prif afonydd sy'n llifo iddo yw [[afon Folga]], [[afon Ural]], [[afon Terek]] ac [[afon Koera]]. Nid oes afon yn llifo allan ohono, felly mae'r dŵr yn hallt. Yn 2004, roedd lefel y dŵr 28 metr (92 troedfedd) yn is na lefel y môr. Mae lefel dŵr Môr Caspia ei hun wedi gostwng yn sylweddol yn y degawdau diwethaf, oherwydd cynnydd yn yr [[anweddiad]], lleihad yn y glawogydd ac effaith adeiladu [[argae]]au i gymeryd dŵr o'r Folga. Dechreuodd y cylch lefel y môr olaf gyda chwymp yn lefel y môr o 3m (10 tr) rhwng 1929 a 1977, ac yna codiad o 3m (10 tr) rhwng 1977 a 1995. Ers hynny mae osgiliadau llai wedi cymryd lle.<ref>{{cite web|url=http://www.caspage.citg.tudelft.nl/project.html |archive-url=https://web.archive.org/web/20110724171008/http://www.caspage.citg.tudelft.nl/project.html |archive-date=2011-07-24 |title=Welcome to the Caspian Sea Level Project Site |publisher=Caspage.citg.tudelft.nl |access-date=2010-05-17}}</ref> Amcangyfrifodd astudiaeth gan Academi Gwyddorau Azerbaijan fod lefel y môr yn gostwng mwy na chwe centimetr y flwyddyn oherwydd [[anweddiad]] cynyddol oherwydd y tymheredd yn codi a achosir gan [[newid hinsawdd]].<ref name="Nation-20190418">{{cite news |title=Caviar pool drains dry as Caspian Sea slides towards catastrophe |url=https://www.nationmultimedia.com/detail/opinion/30367864 |access-date=2019-04-18 |work=The Nation |agency=Agence France-Presse |date=2019-04-18 |location=Bangkok |archive-url=https://web.archive.org/web/20190417191035/http://www.nationmultimedia.com/detail/opinion/30367864 |archive-date=2019-04-17 |url-status=live }}</ref>
 
Ei brif fewnlif o ddŵr croyw yw afon hiraf Ewrop, sef y Volga, sy'n dod i mewn i'r llyn yn y pen gogleddol, bas. Mae dau fasn dwfn yn ffurfio ei barthau canolog a deheuol, sy'n arwain at wahaniaethau llorweddol mewn tymheredd, halltedd ac ecoleg. Mae gwely'r môr yn y de yn cyrraedd 1,023 m (3,356 tr - tua maint [[yr Wyddfa]]) o dan lefel y môr, sef yr ail isaf ar y Ddaear ar ôl [[Llyn Baikal]] (−1,180 m neu −3,870 tr). Cofnododd trigolion hynafol ei arfordir fod Môr Caspia fel cefnfor, yn ôl pob tebyg oherwydd ei halltrwydd a'i faint enfawr.