Taliesin (locomotif): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
hanes
→‎Hanes: hyd at 2016
Llinell 6:
=Hanes=
Codwyd pres i adeiladu’r locomotif gyda cynllun gan Andy Savage a Gordon Rushton. Talwyd £10 bob mis dros gyfnod o 12 mlynedd. Roedd y ‘Taliesin’ newydd tipyn bach yn hirach na’r un gwreiddiol. Roedd hi’n bosibl newid o ddefnyddio glo i olew – neu’r ffordd arall - mewn diwrnod. Adeiladwyd y boeler gan Bloomfield Steel Construction ym 1998. Cafodd y locomotif ei enwi ym Mai 1999. Cwblhawyd a pheintiwyd y locomotif cyn dechrau gweithio ym Awst 2000, yn defnyddio olew. Gweithiodd Taliesin yng Ngwyl Rheilffordd Eryri ar 16-17 Medi 2000, ac aeth o yn ôl i’r rheilffordd ar 22-23 Medi 2001 ac eto yn Nhachwedd 2009.<ref>[https://www.festipedia.org.uk/wiki/Taliesin_III Gwefan Festipedia]</ref>
 
 
Defnyddiwyd olew gan locomotifau’r rheilffordd ers y 60au i osgoi tanau yn ymyl y rheilffordd ym [[Parc Cenedlaethol Eryri|Mharc Cenedlaethol Eryri]] a’r costau canlynol o yswiriant, ond roedd cost yr olew wedi codi’n sylweddol, felly cynlluniwyd Taliesin i newid o olew i lo, a’r gwrthwyneb, yn rhwydd. Newidwyd gweddill y locomotifau wedyn. Mae Taliesin yn boblogaidd ymysg y gyrrwyr a dynion tân, ond mae o wedi dioddef ar ôl iddo dynnu gormod o gerbydau. Datryswyd y broblem gan greu ‘monobloc’ yn cynnwys y silindrau a falfau piston. Ychwanegwyd y monobloc erbyn mis Hydref 2011. Bwriadir defnyddir monobloc tebyg ar locomotifau eraill. Codwyd pwys y boeler i 200psi yn 2012. Ailwbeiniwyd Taliesin yn 2016.<ref>[https://www.festipedia.org.uk/wiki/Taliesin_III Gwefan Festipedia]</ref>