Ludwig van Beethoven: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Nodyn:Person using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Roedd '''Ludwig van Beethoven''' ([[17 Rhagfyr]] [[1770]] – [[26 Mawrth]] [[1827]]) yn gyfansoddwr Almaenig o'r cyfnod clasurol, er fod ei gyfansoddiadau yn cael eu ystyried fel enghreifftiau cyntaf y cyfnod [[Rhamantaidd]]. Er iddo golli ei glyw yn hanner olaf ei oes, parhaodd i gyfansoddi darnau cyffrous, ac fe'i ystyrir yn un o'r cyfansoddwyr gorau erioed. Ymysg ei weithiau mwyaf enwog mae ei bumed a'i nawfed symffoni, y darn piano "Für Elise", y Sonata "Pathétique" a'r Sonata "Golau Lleuad" ("Moonlight Sonata").
 
== Cefndir ==
Ganwyd Beethoven yn [[Bonn]], yn blentyn hynaf Johann a Maria Magdalena van Beethoven ei wraig. Does dim sicrwydd am ddiwrnod ei eni, ond cafodd ei [[Bedydd|fedyddio]] ar 17 Rhagfyr 1770. Mae'r adeilad lle cafodd ei eni bellach yn cael ei ddefnyddio fel amgueddfa Beethoven-Haus.<ref>{{Cite web|title=Beethoven: Compositions, biography, siblings and more facts|url=https://www.classicfm.com/composers/beethoven/guides/beethoven-20-facts-about-great-composer/|website=Classic FM|access-date=2021-04-13|language=en}}</ref> Roedd y teulu o darddiad [[Fflemeg]] a gellir ei olrhain yn ôl i [[Mechelen]]. Taid Beethoven oedd wedi ymgartrefu gyntaf yn Bonn pan ddaeth yn ganwr yng nghôr archesgob-etholwr [[Cwlen]]; cododd yn y pen draw i ddod yn Kapellmeister. Roedd ei fab Johann hefyd yn ganwr yng nghôr yr etholwr. Er yn eithaf llewyrchus ar y dechrau, daeth teulu Beethoven yn raddol dlotach gyda marwolaeth y taid ym 1773 ac effaith alcoholiaeth ar y tad. Erbyn 11 oed roedd yn rhaid i Beethoven adael yr ysgol. Erbyn 18 oed ef oedd brif ddarparydd anghenion y teulu.<ref>{{Cite web|title=Ludwig van Beethoven {{!}} Biography, Music, & Facts|url=https://www.britannica.com/biography/Ludwig-van-Beethoven|website=Encyclopedia Britannica|access-date=2021-04-13|language=en}}</ref>
----
[[Image:DBP - 200 Jahre Beethoven - 10 Pfennig - 1970.jpg|bawd|chwith|130px]]