Pleistosen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
[[Image:Ice age fauna of northern Spain - Mauricio Antón.jpg|bawd|chwith|Pleistosen gogledd [[Sbaen]]: [[Mamoth]], [[llew]] yn bwyta gweddillion [[carw]], [[Equus ferus ferus|tarpans]] a [[rhinosorws blewog]].]]
 
Syr [[Charles Lyell]] a fathodd y term ym 1839 i ddisgrifio strata o greigiau yn [[Sisili]]; sylweddolodd fod yn y creigiau hyn [[ffawna]] [[molwsg|molysgaidd]] a bod 70% ohonyn yn dal i fodoli. Roedd y ffaith hwn yn ei wneud yn gwbwl wahanol i'r epoc [[Plïosenaidd]] ac yn ei wneud yn gyfnod gwahanol ac iau. Bathodd y term "Pleistocene" ("MwayfaMwayf newydd") o'r [[iaith Roeg|Groeg]]: πλεῖστος, ''pleīstos'', "mwyaf", a καινός, ''kainós'' (a [[Lladin|Ladineiddiwyd]] fel ''cænus''), "newydd"; roedd hyn, felly, yn cyferbynnu gyda'r cyfnod a'i rhagflaenodd, sef y Cyfnod Plïosenaidd ("Mwy newydd", o'r gair πλείων, ''pleíōn'', "mwy", a ''kainós'' ''Pliocene''), a'r cyfnod a'i dilynodd sef [[Holocen]] ("yn gyfangwbwl newydd", a darddodd o'r Groeg ὅλος, ''hólos'', "yn gyfangwbwl" (Saesneg: ''whole'', a ''kainós'') sy'n ymestyn hyd at y presennol.
[[Delwedd:Northern icesheet cy.svg|bawd|300px|dde|Rhewlifau [[Hemisffer y Gogledd]] yn ystod yr [[Uchafbwynt Rhewlifol Diwethaf]]. Pan grewyd llenni iâ 3 - 4 km (1.9 - 2.5 mill) o drwch, sy'n gyfysr â lefel y môr yn gostwng tua 120 m (390 tr).]]