Johannes Brahms: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 5:
| dateformat = dmy
}}
Roedd '''Johannes Brahms''' ([[7 Mai]] [[1833]] - [[3 Ebrill]] [[1897]]) yn [[Cyfansoddwr|gyfansoddwr]], [[pianydd]] ac [[Arweinydd (cerddoriaeth)|arweinydd cerddoriath]] Almaenaidd yn y cyfnod Rhamantaidd. Fe'i ganed yn [[Hamburg]] i deulu [[Yr Eglwys Lutheraidd|Lutheraidd]], a threuliodd lawer o'i fywyd proffesiynol yn [[Fienna]]. Weithiau caiff ei grwpio gyda [[Johann Sebastian Bach]] a [[Ludwig van Beethoven]] fel un o "Dri B" cerddoriaeth, sylw a wnaed yn wreiddiol gan yr arweinydd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg Hans von Bülow .
Cyfansoddodd Brahms gweithiau ar gyfer y gerddorfa symffoni, yr ensemble siambr, y piano, yr organ, y llais a'r corws. Yn bianydd meistrolgar, perfformiwyd nifer o'i weithiau am y tro cyntaf ganddo ef ei hun. Gweithiodd gyda pherfformwyr blaenllaw ei gyfnod, gan gynnwys y pianydd [[Clara Schumann]] a'r feiolinydd Joseph Joachim (roedd y tri yn ffrindiau agos). Mae llawer o'i weithiau wedi dod yn rhan o brif arlwy'r repertoire cyngerdd modern.
Roedd Brahms yn cael ei ystyried yn draddodiadwr ac yn arloeswr, gan ei gyfoeswyr a chan awduron diweddarach. Mae ei gerddoriaeth wedi'i wreiddio yn strwythurau a thechnegau cyfansoddiadol y meistri [[Cerddoriaeth glasurol|Clasurol.]] Er bod rhai o'i gyfoeswyr o'r farn bod ei gerddoriaeth yn rhy academaidd, roedd ffigurau dilynol megis Arnold Schoenberg ac [[Edward Elgar]] yn edmygu ei gyfraniad a'i grefftwaith. Roedd natur ddiwyd, hynod adeiladol gweithiau Brahms yn fan cychwyn ac yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth o gyfansoddwyr. Mae motiffau rhamantus dwfn wedi'u hymgorffori yn y strwythurau hynny.
== Gweithiau cerddorol ==
Llinell 22 ⟶ 26:
{{DEFAULTSORT:Brahms, Johannes}}
|