Le Corbusier: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan AlwynapHuw (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Sian EJ.
Tagiau: Gwrthdroi
Dim crynodeb golygu
Llinell 17:
 
==Bywyd cynnar (1887–1904) ==
Ganwyd Charles-Édouard Jeanneret ar 6 Hydref 1887 yn La Chaux-de-Fonds, dinas fach yng nghanton [[Neuchâtel]] a oedd yn [[Ffrangeg]] ei hiaith yng ngogledd-orllewin y [[Swistir]], ym [[Jura (mynyddoedd)|mynyddoedd Jura]], 5 cilometr (3.1 milltir) dros y ffin o [[Ffrainc]]. Roedd yn dref [[diwydiant|ddiwydiannol]], gyda llawer o ffatrioedd creu [[oriawr]]au yno. Mabwysiadodd y ffugenw Le Corbusier ym 1920. Roedd ei dad yn grefftwr a oedd yn enameiddio blychau ac oriorau, ac roedd ei fam yn dysgu [[piano]]. Roedd ei frawd hynaf Albert yn [[Ffidil|filoinydd]] amatur.<ref=Corbusier>{{SfnCite book|Journeltitle=Le Corbusier : construire la vie moderne|url=https://www.worldcat.org/oclc/910180113|publisher=Éd. du Patrimoine|date=2015|pagelocation=32Paris|isbn=978-2-7577-0419-6|oclc=910180113|others=Cemal,. Emden, Jean-Christophe,. Ballot, Manuel,. Bougot|first=Guillemette|last=Morel Journel}}</ref> Mynychodd ysgol feithrin a ddefnyddai ddulliau Fröbelian.<ref>Marc Solitaire, Le Corbusier et l'urbain – la rectification du damier froebelien, pp. 93–117.</ref><ref>Actes du colloque La ville et l'urbanisme après Le Corbusier, éditions d'en Haut 1993 – {{ISBN|2-88251-033-0}}.</ref><ref>Marc Solitaire, Le Corbusier entre Raphael et Fröbel, pp. 9–27, Journal d'histoire de l'architecture N°1, Presses universitaires de Grenoble 1988 – {{ISBN|2-7061-0325-6}}.</ref>
 
Fel ei gyfoeswr, [[Frank Lloyd Wright]] ( a oedd o linach Cymreig) a'r [[Almaenwr]] [[Mies van der Rohe]], ni chafodd Le Corbusier hyfforddiant ffurfiol fel [[pensaer]]. Denwyd ef at y [[celfyddydau gweledol]]; yn bymtheg oed aeth i'r ysgol gelf ddinesig yn La-Chaux-de-Fonds a ddysgodd y celfyddydau cymhwysol a oedd yn gysylltiedig â gwneud clociau ac oriawau. Dair blynedd yn ddiweddarach mynychodd y cwrs addurno uwch, cwrs a sefydlwyd gan yr arlunydd Charles L'Eplattenier. Ysgrifennodd Le Corbusier yn ddiweddarach fod L'Eplattenier wedi ei wneud yn "ddyn y coedwigoedd" ac wedi dysgu iddo beintio o fyd natur.{{Sfn|Journel|2015|page=32}} Byddai ei dad yn aml yn mynd ag ef am dro i'r mynyddoedd o amgylch y dref. Ysgrifennodd yn ddiweddarach, "roeddem yn gyson ar fynydd-dir; fe wnaethon ni ddod yn gyfarwydd â gorwel helaeth, pell."<ref>Le Corbusier, ''L'Art décoratif d'aujourdhui'' (1925), tud. 198.</ref> Ei athro pensaernïaeth yn yr Ysgol Gelf oedd y pensaer René Chapallaz, a gafodd ddylanwad mawr ar ddyluniadau tai cynharaf Le Corbusier. Adroddodd yn ddiweddarach mai'r athro celf L'Eplattenier a barodd iddo ddewis pensaernïaeth. "Roedd gen i ofn pensaernïaeth a phenseiri," ysgrifennodd. "... Roeddwn i'n un ar bymtheg oed, derbyniais y dyfarniad ac ufuddheais: symudais i mewn i fyd pensaernïaeth."<ref>Ffynhonnell: Jean Petit, ''Le Corbusier lui-meme'', Rousseau, Geneva 1970, tud. 28.</ref>