Le Corbusier: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 19:
Ganwyd Charles-Édouard Jeanneret ar 6 Hydref 1887 yn La Chaux-de-Fonds, dinas fach yng nghanton [[Neuchâtel]] a oedd yn [[Ffrangeg]] ei hiaith yng ngogledd-orllewin y [[Swistir]], ym [[Jura (mynyddoedd)|mynyddoedd Jura]], 5 cilometr (3.1 milltir) dros y ffin o [[Ffrainc]]. Roedd yn dref [[diwydiant|ddiwydiannol]], gyda llawer o ffatrioedd creu [[oriawr]]au yno. Mabwysiadodd y ffugenw Le Corbusier ym 1920. Roedd ei dad yn grefftwr a oedd yn enameiddio blychau ac oriorau, ac roedd ei fam yn dysgu [[piano]]. Roedd ei frawd hynaf Albert yn [[Ffidil|fioloinydd]] amatur. Mynychodd ysgol feithrin a ddefnyddai ddulliau Fröbelian. <ref>Marc Solitaire, Le Corbusier et l'urbain – la rectification du damier froebelien, pp. 93–117.</ref><ref>Actes du colloque La ville et l'urbanisme après Le Corbusier, éditions d'en Haut 1993 – {{ISBN|2-88251-033-0}}.</ref><ref>Marc Solitaire, Le Corbusier entre Raphael et Fröbel, pp. 9–27, Journal d'histoire de l'architecture N°1, Presses universitaires de Grenoble 1988 – {{ISBN|2-7061-0325-6}}.</ref>
 
Fel ei gyfoeswr, [[Frank Lloyd Wright]] ( a oedd o linach Cymreig) a'r [[Almaenwr]] [[Mies van der Rohe]], ni chafodd Le Corbusier hyfforddiant ffurfiol fel [[pensaer]]. Denwyd ef at y [[celfyddydau gweledol]]; yn bymtheg oed aeth i'r ysgol gelf ddinesig yn La-Chaux-de-Fonds a ddysgodd y celfyddydau cymhwysol a oedd yn gysylltiedig â gwneud clociau ac oriawau. Dair blynedd yn ddiweddarach mynychodd y cwrs addurno uwch, cwrs a sefydlwyd gan yr arlunydd Charles L'Eplattenier. Ysgrifennodd Le Corbusier yn ddiweddarach fod L'Eplattenier wedi ei wneud yn "ddyn y coedwigoedd" ac wedi dysgu iddo beintio o fyd natur.<ref>Marc Solitaire, Le Corbusier entre Raphael et Fröbel, p32, Journal d'histoire de l'architecture N°1, Presses universitaires de Grenoble 1988 – {{SfnISBN|Journel|2015|page=322-7061-0325-6}}.</ref> Byddai ei dad yn aml yn mynd ag ef am dro i'r mynyddoedd o amgylch y dref. Ysgrifennodd yn ddiweddarach, "roeddem yn gyson ar fynydd-dir; fe wnaethon ni ddod yn gyfarwydd â gorwel helaeth, pell." Ei athro pensaernïaeth yn yr Ysgol Gelf oedd y pensaer René Chapallaz, a gafodd ddylanwad mawr ar ddyluniadau tai cynharaf Le Corbusier. Adroddodd yn ddiweddarach mai'r athro celf L'Eplattenier a barodd iddo ddewis pensaernïaeth. "Roedd gen i ofn pensaernïaeth a phenseiri," ysgrifennodd. "... Roeddwn i'n un ar bymtheg oed, derbyniais y dyfarniad ac ufuddheais: symudais i mewn i fyd pensaernïaeth."<ref>Ffynhonnell: Jean Petit, ''Le Corbusier lui-meme'', Rousseau, Geneva 1970, tud. 28.</ref>
 
{{clirio}}
 
==Teithio a chynllunio'r tŷ cyntaf (1905–1914)==
Llinell 30:
</gallery>
 
Dechreuodd Le Corbusier ddysgu ei hun trwy fynd i'r llyfrgell i ddarllen am bensaernïaeth ac [[athroniaeth]], trwy ymweld ag [[amgueddfa|amgueddfeydd]], trwy fraslunio adeiladau, a thrwy eu hadeiladu. Ym 1905, dyluniodd ac adeiladodd ef a dau fyfyriwr arall, dan oruchwyliaeth eu hathro, René Chapallaz, ei dŷ cyntaf, y Villa Fallet, ar gyfer yr engrafwr Louis Fallet, ffrind i'w athro Charles L'Eplattenier. Wedi'i leoli ar ochr y bryn coediog ger Chaux-de-fonds, roedd yn sialens enfawr gyda tho serth yn yr arddull Alpaidd leol a phatrymau geometrig lliw wedi'u crefftio'n ofalus ar y ffasâd. Arweiniodd llwyddiant y tŷ hwn at adeiladu dau dŷ tebyg, y Villas Jacquemet a Stotzer, yn yr un ardal.<ref>Marc Solitaire, Le Corbusier entre Raphael et Fröbel, p 49, Journal d'histoire de l'architecture N°1, Presses universitaires de Grenoble 1988 – {{SfnISBN|Journel|2015|page=492-7061-0325-6}}.</ref>
 
Ym mis 1907, gwnaeth ei daith gyntaf y tu allan i'r Swistir, gan fynd i'r [[Eidal]]; yna'r gaeaf hwnnw teithiodd drwy [[Budapest]] i [[Fienna]], lle arhosodd am bedwar mis a chwrdd â [[Gustav Klimt]] a cheisio, heb lwyddiant, cwrdd â [[Josef Hoffmann]].<ref>Marc Solitaire, Le Corbusier entre Raphael et Fröbel, pp. 49, Journal d'histoire de l'architecture N°1, Presses universitaires de Grenoble 1988 – {{SfnISBN|Journel|2015|page=482-7061-0325-6}}.</ref> Yn [[Fflorens]], ymwelodd â Charterhouse Florence yn [[Galluzzo]], a wnaeth argraff ddofn arno. "Byddwn i wedi hoffi byw yn un o'r hyn roedden nhw'n ei alw'n gelloedd," ysgrifennodd yn ddiweddarach. "Dyma oedd yr ateb ar gyfer math unigryw o dai gweithwyr, neu'n hytrach ar gyfer paradwys ddaearol."<ref>Letter to Eplattenier in Dumont, ''Le Corbusier, Lettres a ses maitres'', vol. 2, pp. 82–83.</ref> Teithiodd i [[Paris|Baris]], ac yn ystod un-deg-pedwar mis rhwng 1908 a 1910 bu’n gweithio fel drafftiwr yn swyddfa’r pensaer Auguste Perret, arloeswr y defnydd o '[[concrit|goncrit-wedi’i-atgyfnerthu]]' mewn adeiladu preswyl, a phensaer y gwaith Art Deco ''Théâtre des Champs- Élysées''. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rhwng Hydref 1910 a Mawrth 1911, teithiodd i'r [[Almaen]] gan weithio am bedwar mis yn swyddfa Peter Behrens, lle roedd [[Ludwig Mies van der Rohe]] a [[Walter Gropius]] hefyd yn gweithio ac yn dysgu.<ref=Journel 32-33>Marc Solitaire, Le Corbusier entre Raphael et Fröbel, pp. 32, Journal d'histoire de l'architecture N°1, Presses universitaires de Grenoble 1988 – {{SfnISBN|Journel|2015|pages=32–332-7061-0325-6}}.</ref>
 
Yn 1911, teithiodd eto gyda'i ffrind August Klipstein am bum mis;<ref>{{Cite book|title=Klip and Corb on the road|last=Žaknić|first=Ivan|publisher=Scheidegger & Spiess|year=2019|isbn=978-3-85881-817-1|location=Zürich}}</ref> y tro hwn, teithiodd i'r [[Balcanau]] gan ymweld â [[Serbia]], [[Bwlgaria]], [[Twrci]], [[Gwlad Groeg]], yn ogystal â [[Pompeii]] a [[Rhufain]], gan lenwi bron i 80 o lyfrau brasluniau'n gofnod o'r hyn a welodd - gan gynnwys llawer o frasluniau o'r [[Parthenon]], y byddai ei ganmol, yn ddiweddarach, yn ei gwaith ''Vers une architecture'' (1923). Soniodd am yr hyn a welodd yn ystod y daith hon mewn llawer o'i lyfrau, ac yn bwysicach, roedd yn destun ei lyfr olaf, sef ''Le Voyage d'Orient''.{{Sfn|Journel|2015|pages<ref=32–33}}Journel 32-33>
 
Yn 1912, dechreuodd ei brosiect mwyaf uchelgeisiol: tŷ newydd i'w rieni, hefyd wedi'i leoli ar ochr bryn coediog (ger La-Chaux-de-Fonds). Roedd tŷ Jeanneret-Perret yn fwy na'r lleill, ac mewn arddull fwy arloesol; roedd y llinellau llorweddol yn cyferbynnu’n ddramatig â’r llethrau alpaidd serth, ac roedd y waliau gwyn a’r diffyg addurn yn cyferbynnu’n llwyr â’r adeiladau eraill ar ochr y bryn. Trefnwyd y rhannau mewnol o amgylch pedair colofn y salon yn y canol, gyda'r tu mewn agored fel rhyw ragymadrodd i'r hyn y byddai'n ei greu yn ei adeiladau diweddarach.
 
Roedd y prosiect yn ddrytach i'w adeiladu nag a ddychmygodd; gorfodwyd ei rieni i symud o'r tŷ o fewn deng mlynedd, ac adleoli mewn tŷ llai. Fodd bynnag, arweiniodd y tŷ hwn at gomisiwn i adeiladu fila hyd yn oed yn fwy mawreddog fyth - ym mhentref cyfagos Le Locle, ar gyfer gwneuthurwr clcoiau, Georges Favre-Jacot. Dyluniodd Le Corbusier y tŷ newydd mewn llai na mis. Dyluniwyd yr adeilad yn ofalus i ffitio ei safle ar ochr y bryn, ac roedd y cynllun mewnol yn helaeth ac wedi'i ddylunio o amgylch cwrt ar gyfer y golau mwyaf posibl, ac yn gwbwl wahanol i'r tŷ traddodiadol.<ref>Marc Solitaire, Le Corbusier entre Raphael et Fröbel, p 49, Journal d'histoire de l'architecture N°1, Presses universitaires de Grenoble 1988 – {{SfnISBN|Journel|2015|pages=48–92-7061-0325-6}}.</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
== Ffynonell ==
 
* {{cite book|last=Journel |first=Guillemette Morel |title=Le Corbusier- Construire la Vie Moderne |publisher=Editions du Patrimoine: Centre des Monument Nationaux |year=2015 |language=fr |isbn=978-2-7577-0419-6}}