Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd"

Ehangu mymryn
No edit summary
(Ehangu mymryn)
|content = {{unbulleted list| [[Lithwaneg]] | [[Rwtheneg]] }}}}
}}
GwladGwladwriaeth yng [[Canolbarth Ewrop|Nghanolbarth]] a [[Dwyrain Ewrop]] oedd '''y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd''' a fodolai o 1569 i 1795. Ffurfiwyd y [[ffederasiwn]] [[deuarchaeth|deuarchaidd]] drwy gyfuno [[Teyrnas Gwlad Pwyl (1385–1569)|Teyrnas Gwlad Pwyl]] ac [[Uchel Ddugiaeth Lithwania]]. Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd oedd un o wladwriaethau mwyaf Ewrop yn ystod [[y cyfnod modern cynnar]], ac yn cynnwys bron 400,000 milltir sgwâr a rhyw 11 miliwn o bobl ar ei heithaf yn nechrau yr 17g. Yn ffurfiol, cafodd ei alw gan yr enw hir '''Teyrnas Gwlad Pwyl ac Uchel Ddugiaeth Lithwania''' ({{iaith-pl|Królestwo Polskie i Wielkie Księstwo Litewskie}}, {{iaith-lt|Lenkijos Karalystė ir Lietuvos Didžioji Kunigaikštystė}}, {{iaith-la|Regnum Poloniae Magnusque Ducatus Lithuaniae}}), neu '''Gymanwlad y Ddwy Genedl''' (Pwyleg: ''Rzeczpospolita Obojga Narodów'', Lladin: Res Publica Utriusque Nationis). Defnyddiwyd yr enw Gwlad Pwyl yn aml i ddisgrifio'r holl Gymanwlad.
 
Gwlad aml-ethnig ac amlieithog oedd y Gymanwlad, gan gynnwys [[Pwyliaid]], [[Lithwaniaid]], [[Rwtheniaid]], [[Almaenwyr]], [[Iddewon]], a chymunedau bychain o [[Tatariaid|Datariaid]], [[Armeniaid]], ac [[Albanwyr]].<ref>Peter Paul Bajer, ''Scots in the Polish-Lithuanian Commonwealth, 16th–18th Centuries: The Formation and Disappearance of an Ethnic Group'' (Leiden: Brill, 2012).</ref> Roedd hefyd sawl crefydd, gan gynnwys [[yr Eglwys Gatholig]], [[Protestaniaeth]], [[yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol]], [[Iddewiaeth]], ac [[Islam]]. Bu ambell gymuned yn meddu ar rywfaint o hunanlywodraeth, er enghraifft Cyngor y Pedair Gwlad a oedd yn arfer y gyfraith Iddewig.
 
== Ieithoedd ==
 
* Pwyleg - un o ieithoedd swyddogol y wladwriaeth, iaith y rhan fwyaf o'r bonedd, a'r brif iaith yn ninasoedd a threfi'r wlad.
* [[Lladin]] – yr iaith swyddogol arall, defnyddiwyd Lladin wrth ymdrin â gwledydd eraill, ac fel ail iaith ymysg y bonedd.
* [[Ffrangeg]] – mewn gwirionedd, defnyddiwyd mwy o Ffrangeg nag o Ladin yn llys y Brenin o ddechrau'r 18fed ganrif ymlaen. Defnyddiwyd y Ffrangeg yn iaith gwyddoniaeth a llenyddiaeth.
* [[Ieithoedd Slafonaidd|Iaith Slafonaidd]] Ddwyreiniol - a gelwid yn Rwscieg (руски езыкъ) ar y pryd. Hyd at 1697 roedd yn iaith swyddogol yn yr Uchel Ddugiaeth (Lithwania). Disgynyddion yr iaith hon a'i thafodieithoedd yw [[Wcreineg|Wcreineg,]] [[Belarwseg]] a [[Rusyn]]. Dyma oedd y brif iaith yn rhannau ddwyreiniol y wlad.
* [[Lithwaneg]] – nid oedd yn iaith swyddogol. Siaradwyd yr iaith yn rhan ogleddol yr wlad, sy'n cyfateb yn fras i'r Lithwania fodern, sy'n llai nag oedd Ddugiaeth.
* [[Almaeneg]] - defnyddiwyd yr iaith gan leiafrif yn y dinasoedd.
* [[Hebraeg]] – defnyddiwyd yr ieithoedd Hebraeg ac [[Aramaeg]] gan Iddewon wrth ymdrin â materion crefyddol, ysgolheigaidd a chyfreithiol.
* [[Iddew-Almaeneg]] – dyma oedd iaith bob dydd yr Iddewon, ac felly'n un o brif ieithoedd dinasoedd y wlad
* [[Eidaleg]] – iaith leiafrifol
* [[Armeneg]] – iaith leiafrifol
* [[Arabeg]] – defnyddiwyd Arabeg gan y [[Tatariaid]] ar gyfer materion crefyddol. Roeddynt hefyd yn ysgrifennu Rwscieg (gw. uchod) gan ddefnyddio'r [[Wyddor Arabeg]].
 
== Diwedd y gymanwlad ==
Ym 1777, 1793 ac 1795, rhannwyd tiriogaeth y gymanwlad rhwng [[Prwsia|Prwsia,]] [[Ymerodraeth Rwsia]], a'r [[Y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd|Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd]] ([[Awstria-Hwngari|Awstria-Hwngari).]] Wedi 1795, daeth y gymanwlad i ben, a bu'n rhaid aros nes [[1918]] nes i [[Gwlad Pwyl|Wlad Pwyl]] a [[Lithwania]] ddod yn annibynnol. Yn ogystal â'r ddwy wlad hynny, mae tiriogaeth y gymanwlad gynt bellach yn cynnwys rhannau o'r [[Yr Wcráin|Wcráin,]] [[Moldofa]] ([[Transnistria]]), [[Belarws]], [[Rwsia]], [[Latfia]] ac [[Estonia]].
 
== Cyfeiriadau ==