Thomas Edwards (Yr Hwntw Mawr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Nodyn:Person using AWB
Manylion
Llinell 1:
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= dinasyddiaeth }}
 
Roedd '''Thomas Edwards''' (bu farw [[17 Ebrill]] [[1813]]), (ynsy'n fwy adnabyddus fel '''Yr Hwntw Mawr''' (bu farw [[17 Ebrill]] [[1813]]), yn [[Llofruddiaeth|llofrudd]] a'r llofrydd olaf i gael ei grogi'n gyhoeddus yn [[Sir Feirionnydd]]. (Y dyn olaf i'w grogi'n gyhoeddus ym Meirionnydd oedd John Greenwood a grogwyd am geisio prynu diod yng Ngwesty'r Llew Aur, Dolgellau, gyda papur £5 ffug [[15 Mai]] [[1813]].)
 
Er gwaethaf ei enw, ymddengys mai [[Gogledd Cymru|gogleddwr]] oedd yr [[De Cymru|Hwntw]], ac iddo gael y llysenw oherwydd iddo weithio yn y de am gyfnod. Bu hefyd yn gweithio yng ngwaith [[copr]] [[Mynydd Parys]] ar [[Ynys Môn]]. Dywedir ei fod o faint a chryfder anarferol.
 
Pan faluriwyd y Cob ym [[Porthmadog|Mhorthmadog]] gan storm ynym mis Chwefror 1812, lai na phedwar fuanmis ar ôl ei hadeiladu, daethpwyd aâ nifer fawr o weithwyr i'w drwsio, gyda Thomas Edwards yn eu plith. Daeth i wybod fod swm sylweddol o arian yn cael ei gadw yn ffermdy Penrhyn Isaf, heb fod ymhell o [[Minffordd]] a gerllaw [[Portmeirion]]. UnAr [[7 Medi]] [[1812]], diwrnod pan oedd yn credu fod pawb yn brysur gyda'r cynhaeaf, aeth i'r ffermdy a cheisio agor drôr y seld lle cedwid yr arian. Roedd morwyn ddeunaw oed o'r enw Mary Jones gatrefgartref yn paratoi bwyd i'r cynaeafwyr, a daeth i mewn i'r ystafell a dal yr Hwntw. Llofruddiodd yntau hi â gwellaif gneifio.
 
Parodd y llofruddiaeth ddychryn mawr yn yr ardal, a syrthiodd amheuaeth ar yr Hwntw. Ceisiodd yntau ddianc gyda chriw o ddynion ar ei ôl, a bu ymladdfa wrth iddo geisio croesi [[Afon Dwyryd]]. Boddwyd un o'r ymlidwyr, Robert Williams, ewythr i Mary Jones, ond daliwyd yr Hwntw. Gyrrwyd ef i dref [[Dolgellau]] yng ngofal chwech cwnstabl, ac wedi ei rwymo ar gefn ceffyl. Er hynny, llwyddodd i ddianc ar y ffordd. Rai dyddiau'n ddiweddarach daliwyd ef gan ŵr o'r enw John Jones, Ynysfor. Aed ag ef i Ddolgellau i'r carchar. Cynhaliwyd yr achos yn ei erbyn yn Llys y Sesiwn Fawr yn [[y Bala]], a chafwyd ef yn euog. Crogwyd ef yn gyhoeddus yn Nolgellau ar 17 Ebrill, 1813. Gellir gweld bedd Mary Jones ym mynwent eglwys [[Llanfrothen]].
 
==Llyfryddiaeth==
* T. Llew Jones, "Yr Hwntw Mawr", yn ''Gwaed ar eu Dwylo'' (Gwasg Gomer, 1966), tt.13–18
 
{{Rheoli awdurdod}}
 
{{DEFAULTSORT:Edwards (Yr Hwntw Mawr), Thomas}}
[[Categori:Marwolaethau 1813]]
[[Categori:Hanes Gwynedd]]
[[Categori:Llofruddiaeth]]
[[Categori:Marwolaethau 1813]]
[[Categori:Troseddwyr Cymreig]]