Defnyddiwr:AlwynapHuw/chwaraewyr rygbi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 8:
Roedd '''Phil Hopkins''' ([[31 Ionawr]] [[1880]] - [[26 Medi]] [[1966]]) <ref>[http://www.scrum.com/wales/rugby/player/1991.html Philip Hopkins rugby profile] Scum.com</ref> yn asgellwr [[rygbi'r undeb]] rhyngwladol [[Cymru|Cymreig]] a chwaraeodd rygbi clwb i [[Clwb Rygbi Abertawe|Abertawe]] . Enillodd bedwar cap i [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru|Gymru]] a chafodd dylanwad bwysig ar y tîm a enillodd y [[Y Goron Driphlyg|Goron Driphlyg]] ym [[Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1909|mewncampwriaeth 1909]].
 
==Bywyd personol==
Ganwyd Philip Lewis Hopkins yn [[Llangyfelach]], yn drydedd blentyn i Evan Hopkins, swyddog adfer, a Catherine (née John) ei wraig, fe'i haddysgwyd yn Ysgol Golegol Pontardawe a [[Prifysgol Bangor|Choleg Prifysgol Gogledd Cymru]]. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth fel rheolwr gwaith tunplat. Ym 1913 priododd Maud Stanhope, merch Mr a Mrs. Stanhope, [[Cas-gwent]]. Bu iddynt (nifer) o blant. Bu farw o (achos) ym (mhle) yn (rhif) oed. , a chladdwyd ei weddillion ym mynwent (lle)
== Gyrfa rygbi ==
Chwaraeodd Hopkins ei rygbi gyntaf ar lefel bechgyn ysgol i Ysgol Golegol Pontardawe, ac ar ôl iddo cael ei dderbyn yn fyfyriwr yng [[Prifysgol Bangor|Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru]], Bangor, bu'n aelod o dîm y coleg. Roedd yn sbortsmon amryddawn bu'n chware sawl camp i safon uchel, gan gynnwys pêl-droed, [[tenis]] a hoci. Rhwyfodd dros Prifysgol Bangor yn [[Henley]] ac roedd yn eilydd i dîm [[hoci]] Cymru a'r tîm [[pêl-droed]] amatur.<ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4198462|title=Wallabies in Swansea - Evening Express|date=1908-12-26|accessdate=2021-04-21|publisher=Walter Alfred Pearce}}</ref>
 
Ar lefel clwb, chwaraeodd Hopkins ei rygbi gyntaf i Glwb Rygbi Pontardawe, ei dîm lleol cyn iddo symud i glwb rygbi Abertawe ym 1902<ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/3569253|title=BANGOR AND DISTRICT - The North Wales Express|date=1902-10-17|accessdate=2021-04-22|publisher=Robert Wiliams}}</ref>. Ym 1908 daeth Hopkins i'r amlwg pan wynebodd dîm teithiol cyntaf [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Awstralia|Awstralia]] ar dri achlysur, ar lefel clwb, sir a rhyngwladol. Ei gyfarfod cyntaf gyda'r Awstraliaid oedd pan gafodd ei ddewis ar gyfer tîm wahodd Sir Forgannwg . Yn y gêm, a chwaraewyd ym [[Pontypridd|Mhontypridd]], enillodd y twristiaid 16-3. Dau fis yn ddiweddarach, dewiswyd Hopkins ar gyfer ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf pan gafodd ei ddewis ar gyfer tîm Cymru i wynebu [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Awstralia|Awstralia]]. Cafodd Hopkins gêm nodedig yn sgorio un o ddau [[Cais|gais]] Cymru, mewn buddugoliaeth agos.<ref>{{cite web|url=https://hdl.handle.net/10107/4197997|title=Saturday's Great Match - Evening Express|date=1908-12-14|accessdate=2021-04-21|publisher=Walter Alfred Pearce}}</ref> Yna ar 26 Rhagfyr 1908, wynebodd Hopkins Awstralia am y tro olaf pan chwaraeodd dros Abertawe mewn buddugoliaeth hanesyddol dros y twristiaid.
 
Chwaraeodd Hopkins nesaf i Gymru ym [[Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1909|Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad 1909]], a chwaraeodd mewn dwy o'r gemau, yn erbyn Lloegr ac Iwerddon. Sgoriodd Hopkins gais yn y ddwy gêm. Gyda Chymru’n curo’r tri gwrthwynebydd yn y twrnamaint, daeth Hopkins yn rhan o dîm a enillodd y Goron Driphlyg. Chwaraeodd Hopkins mewn dim ond un gêm arall i Gymru, ei gêm rhyngwladol cyntaf mewn garfan a gollodd, mewn gêm oddi cartref i Loegr fel rhan o [[Pencampwriaeth y Pum Gwlad 1910|Bencampwriaeth y Pum Gwlad 1910]].