Macedoneg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Llinell 4:
 
== Yr iaith lenyddol ==
{{prif|Llenyddiaeth Facedoneg}}
Datblygodd yr iaith Facedoneg llenyddol ar sail llenyddiaeth Slafoneg yr Oesoedd Canol. Hyd at ddechrau'r 19g, Slafoneg Eglwysig oedd y brif iaith lenyddol yn niwylliant y Macedoniaid, y [[Serbiaid]], a'r Bwlgariaid. Ers yr 16g, bu llenorion Slafoneg yn cynnwys elfennau o iaith y werin yn eu gwaith, ac yn y 19g daeth yr arfer hon yn fwyfwy gyffredin. Yn ystod [[Ymerodraeth yr Otomaniaid|yr oes Otomanaidd]], cafodd diwylliant y [[Groegiaid]] ddylanwad ar grefydd ac addysg yn nhiroedd deheuol y Macedoniaid, ac yma buont yn ysgrifennu'r Facedoneg drwy gyfrwng [[yr wyddor Roeg]] yn hytrach na'r wyddor Gyrilig. Yn hanner cyntaf y 19g, ymddangosodd corff bach o lên yn iaith y werin, wedi ei ysgrifennu yn yr wyddor Roeg, ac yn cynnwys cyfieithiadau o'r [[Efengyl]]au a thestunau [[didactig]] ar bynciau crefyddol. Oherwydd y wahaniaeth o ran y system ysgrifennu, datblygodd y traddodiad hwn ar wahân i'r ieithoedd Slafonaidd ysgrifenedig eraill, ac o achos hynny ffurf neillduol ydy'r iaith lenyddol sy'n wir adlewyrchiad o lafar gwlad yr oes. Dylanwadwyd ar lenyddiaeth Facedoneg Gyrilig yn gryf gan y traddodiad Slafoneg Eglwysig, a bu hefyd yn cyfuno â'r elfennau Groegaidd. Bu nifer o lenorion y cyfnod, gan gynnwys Dimitar Miladinov a Grigor Prličev, yn ysgrifennu drwy gyfrwng y ddwy wyddor.<ref>Blaže Koneski, "Macedonian" yn ''The Slavic Literary Languages: Formation and Development'', golygwyd gan Alexander M. Schenker ac Edward Stankiewicz (New Haven: Yale Concilium on International and Area Studies, 1980), t. 54–55.</ref>