Nofel hanesyddol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tr
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol Golygiad symudol uwch
Llinell 1:
[[Nofel]] a chanddi stori wedi ei gosod mewn oes o'r blaen yw '''nofel hanesyddol'''. Gallai portreadu digwyddiadau a chymeriadau go iawn neu fod yn naratif gwbl [[ffuglen]]nol, ond byddai wastad yn tynnu ar themâu sy'n ymwneud â chyfnod [[hanes]]yddol penodol.
 
Y llenor cyntaf i ddefnyddio'r gorffennol yn gefndir i'w straeon am ramant a brad oedd yr Albanwr Syr [[Walter Scott]]. Bu sawl nofelydd Ewropeaidd, gan gynnwys [[Manzoni]], yn dynwared arddull Scott, ac felly datblygodd y nofel hanesyddol fel genre unigryw. Fe'i defnyddid i osod cyd-destun ffeithiol a diddorol i'r darllenwr, ac yn fyd parod llawn antur a drama. Bu rhai o lenorion y 19g yn ysgrifennu nofelau tra- [[cenedlaetholdeb|genedlaetholgarchenedlaetholgar]] gan dynnu ar [[hanes traddodiadol]] a mythau cenedlaethol.
 
Yn yr 20g manteisiodd awduron ar y ffurf hon o'r nofel i ymdrin â syniadau [[seicoleg]]ol a [[cymdeithaseg|chymdeithasegol]] am feddylfryd ein hynafiaid, megis [[Robert Graves]] yn ''[[I, Claudius]]'' (1934) a [[Marguerite Yourcenar]] yn ''Mémoires d'Hadrien'' (1951). Gan amlaf, arbenigai nofelwyr hanesyddol mewn dosbarthiadau penodol o'r genre, rhai ohonynt yn hynod o boblogaidd: y rhamant hanesyddol, nofelau cyfnod y Rhaglywiaeth, anturiaethau morwyr yn [[Rhyfeloedd Napoleon]], straeon [[Y Gorllewin Gwyllt (genre)|y Gorllewin Gwyllt]], a'r nofel deuluol.