Defnyddiwr:Adda'r Yw/drafftiau/John Huston: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad cod 2017 |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad cod 2017 |
||
Llinell 23:
Yn ystod [[yr Ail Ryfel Byd]], galwyd Huston i'r lluoedd arfog a fe'i penodwyd yn gapten yng Nghorfflu Signalau'r [[Byddin yr Unol Daleithiau|Fyddin]]. Cyfarwyddodd bedair [[ffilm ddogfen]] ar gyfer Gwasanaeth Darluniadol y Corfflu Signalau. Ffilm am filwyr yn paratoi ar gyfer yr ymgyrch yn Ynysoedd Aleut, yng ngogledd [[y Cefnfor Tawel]], yw ''Report from the Aleutians'' (1943). Cyfrannodd at y ffilm bropaganda Eingl-Americanaidd ''Tunisian Victory'' (1944), am Ymgyrch Torch yng Ngogledd Affrica, drwy ail-ffilmio golygfeydd o'r brwydro wedi i'r cwch a oedd yn cludo'r ffilm wreiddiol gael ei suddo. Cafodd Huston a'i griw eu hatodi i'r 143ain Gatrawd, 36ain Adran y Troedfilwyr, i ffilmio Brwydr San Pietro Infine yn yr Eidal yn Rhagfyr 1943, a oedd yn bwnc y ffilm ''The Battle of San Pietro'' (1945). Ei ffilm olaf yn ystod y rhyfel oedd ''Let There Be Light'' (1946), am gyn-filwyr mewn ysbyty seiciatrig yn [[Long Island]], ymgais i hysbysu'r cyhoedd am "siel-syfrdandod" neu "straen ymladd" (yr hyn a elwir bellach [[anhwylder straen wedi trawma]]). Cafodd y ffilm ei gwahardd gan y fyddin oherwydd ei phortread emosiynol ac ysgytiol o gyflwr meddyliol y cyn-filwyr, a ni chafodd ei dangos yn gyhoeddus nes 1981. Dyrchafwyd Huston yn uwchgapten erbyn diwedd y rhyfel, a gwobrwywyd iddo y Lleng Teilyngdod am ffilmio ar faes y gad.
Yn sgil diwedd y rhyfel, gweithiodd Huston ar sgriptiau i ddwy ''film noir'' o nod a ryddhawyd ym 1946: ''The Killers'', a gyfarwyddwyd gan [[Robert Siodmak]] ac yn serennu [[Burt Lancaster]] ac [[Ava Gardner]], a ''The Stranger'' gydag [[Edward G. Robinson]], [[Loretta Young]], ac [[Orson Welles]], wedi ei chyfarwyddo gan Welles. Ym 1946 hefyd cyfarwyddodd Huston y ddrama [[dirfodaeth|ddirfodol]] ''No Exit'' gan yr athronydd [[Jean-Paul Sartre]] yn Broadway. Ym 1947, mewn ymateb i ymgyrch Pwyllgor Gweithgareddau Anamericanaidd [[Tŷ'r Cynrychiolwyr (Unol Daleithiau)|Tŷ'r Cynrychiolwyr]] (HUAC) yn erbyn comiwnyddion yn Hollywood, sefydlwyd y Pwyllgor dros y Gwelliant Cyntaf gan Huston, y cyfarwyddwr [[William Wyler]], a'r sgriptiwr Philip Dunne. Ymunodd Huston â'r ddirprwyaeth o'r diwydiant ffilm a deithiodd i [[Washington, D.C.]] i gefnogi'r rhai oedd yn tystio o flaen yr HUAC. Anghytunai Huston ac aelodau eraill y ddirprwyaeth ag ymddygiad ymosodol y rhai a elwid y "''Hollywood Ten''", ond daliodd at ei wrthwynebiad i'r gwrandawiadau.
[[Delwedd:Humphrey Bogart Walter Huston The Treasure of the Sierra Madre Still.jpg|bawd|Llun o ''The Treasure of the Sierra Madre''. O'r chwith i'r dde: Bruce Bennett, Tim Holt, Humphrey Bogart, Walter Huston.]]▼
Dychwelodd Huston at gyfarwyddo yn Hollywood gyda'r clasur ''The Treasure of the Sierra Madre'' (1948), addasiad o nofel antur gan B. Traven, a ffilmiwyd ym [[Mecsico]]. Stori ydyw am dri ddyn, a bortreadwyd gan Humphrey Bogart, Tim Holt, a Walter Huston, yn chwilota am aur. Methiant a fu'r ffilm yn ariannol, o bosib oherwydd ei diweddglo anhapus, ond enillodd John Huston Wobrau'r Academi am y cyfarwyddwr gorau a'r sgript orau, ac enillodd ei dad Walter y wobr am yr actor gorau mewn rhan gefnogol.
<!--
▲[[Delwedd:Humphrey Bogart Walter Huston The Treasure of the Sierra Madre Still.jpg|bawd|Llun o ''The Treasure of the Sierra Madre''. O'r chwith i'r dde: Bruce Bennett, Tim Holt, Humphrey Bogart, Walter Huston.]]
Bogart, Bacall, Edward G. Robinson, Lionel Barrymore, and Claire Trevor starred in Huston’s next film, Key Largo (1948), a suspenseful adaptation of a Maxwell Anderson play that is regarded as a classic film noir. With a screenplay by Huston and Richard Brooks, it is set in a small hotel in the Florida Keys that is taken over by a gangster (Robinson) who has made a clandestine return from deportation to Cuba. Trevor won the Academy Award for best supporting actress for her portrayal of the gangster’s mistress. Cuba was then the setting for We Were Strangers (1949), an atmospheric account of revolutionaries’ attempt to overthrow the government, which starred Jennifer Jones and John Garfield.
|