Dyddiadur Adarydda y Parch. Harri Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 7:
 
==Ei fywyd==
Dyma deyrnged a gyhoeddwyd mewn papur newyddion anhysbys ar ei farwolaeth a gadwyd gan ei deulu. O'i ddarllen gellir efallai gweld ynddo y mudandod am ei ddiddordeb adaryddol yn fyddarol, ac yn ddadlennol efallai o ddifaterwch [[Methodistaid Calfinaidd|Yr Hen Gorff]] i'r gwyddorau naturiol. Onid oedd aelodau'r sefydliad Methodistaidd am anfarwoli Harri yn eu delw ei hunain.
Bu'n weinidog mewn sawl ardal, gan gynnwys [[y Waunfawr]] yn y [[1950au]] a [[Bangor]] ar ddiwedd ei yrfa.
Marwolaeth Harri Williams
Bu farw'r Athro Harri Williams yn sydyn fore Llun Ionawr 31, [1983] yn 69 mlwydd oed. Brwydrodd ar hyd ei oes yn erbyn afiechyd blin a threuliodd fisoedd mewn ysbytai. Cofnododd ei brofiadau yno yn y gyfrol Ward 8 (1963). Ond ni lwyddodd gwendid corfforol i lesteirio ei egni a'i ymroddiad i bregethu, i ddarlithio ac i lenydda — gorchwylion a gyflawnodd hyd yr eithaf hyd ddiwedd ei oes.
 
Yn ei hoff Sir Fôn, yn y Marian-glas, yr oedd ei wreiddiau, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i ieuenctid yn Lerpwl. Nid adnabu ei dad, capten llong a foddwyd oddi ar orllewin Affrica yn fuan wedi iddo ef gael ei eni, a bu ei fam farw cyn iddo gyrraedd ei arddegau. Fe'i magwyd ef a'i frawd a'i chwiorydd gan fodryb yn Lerpwl.
 
Bu'n ddisgybl yn ysgol enwog y Collegiate ac yna aeth am bum mlynedd i weithio mewn swyddfa. I'r cyfnod hwn yn ddiau y dylid priodoli ei ddiddordeb parhaol mewn eco-nomeg a mathemateg. Fe'i perswadiwyd gan ei weinidog i fynd yn syth o'r swyddfa i Brifysgol Rhydychen i ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth. Aeth yno yn 1934 i astudio Diwinyddiaeth yng Nghymdeithas y Santes Catherine gan arbenigo mewn athroniaeth crefydd dan gyfarwyddyd athro adnabyddus, A. M. Farrer. Yn y cyfnod cynnar yma dechreuodd ysgrifennu yn Gymraeg ac yn y gyfrol 'Oni Threngodd Duw?' (1975) gwelir rhai o'i erthyglau cynharaf yn ogystal a rhai diweddarach sy'n amlygu ei ddiddordeb dwfn yn natblygiadau diweddaraf y cyfnod mewn diwinyddiaeth ac athroniaeth a'i awydd i'w cyflwyno i ddarllenwyr y Gymraeg. Wedi blwyddyn yng Ngholeg y Bala ar ôl graddio gydag anrhydedd mewn diwinyddiaeth yn Rhydychen, aeth yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd i Dywyn, wedi hynny i Waunfawr ac yna i Fangor cyn cael ei benodi yn 1964 i’r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth, i fod yn bennaeth cyntaf yr Adran Fugeiliol — adran a ganolbwyntiai ar baratoi myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf ar gyfer y weinidogaeth. Ef oedd yn bennaf gyfrifol an gwrs sydd wedi ei gydnabod droeon fel un hynod werthfawr a chynhwysfawr ar gyfer y gwaith. Yn ogystal a’r dyletswyddau hyn darlithiai ar Ddiwinyddiaeth Fodern a’r Foeseg i fyfyrwyr ar gyfer gradd a diploma'r Brifysgol. Gwelir peth o ffrwyth y llafur hwn yn ei gyfrolau, 'Y Cristion Cyfoes' (1967); 'Bonhoeffer. (1981) yn y gyfres 'Y Meddwl Modern', a `Duw a Phob Daioni (1978).
 
Ar hyd ei yrfa bu'n eang iawr ei ddiddordebau a mynnai gysylltu diwinyddiaeth a diwylliant yn gyffredinol, ac yn arbennig â llenyddiaeth ac â cherddoriaeth. Darllenai'n eang ymysg awduron cyd-genedlaethol ac adlewyrchid hyn yn y cyfrolau a'i dygodd yn ddiau i sylw cylch ehangach o ddarllenwyr, sef 'Y Ddaeargryn Fawr', cyfrol ar ffurf hunangofiant y meddyliwr mawr o Ddenmarc, Kierkegaard, a 'Deunydd Dwbl', (1982), nofel am Dostoiefsci y Rwsiad. Ennillodd y gyntaf glod uchel pan ddyfarnwyd iddo'r Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Gened-laethol Caerdydd 1978, ac er i'r ail fethu a chipio'r wobr am nofel yn Eisteddfod Machynl-leth yn 1981 fe'i galwyd gan D. Tecwyn Lloyd, un o'n beirniaid llenyddol praffaf, yn gamp-waith.
 
Ai ei ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth yn ôl i'w blentyndod yng nghwmni ei frawd, W. Albert Williams. Apwyntiwyd ef yn Drefnydd Cerdd Sir Aber ni teifi ar ddiwedd y rhyfel byd diwethaf, ond bu farw cyn cael cychwyn ar ei waith. Roedd hi'n hynod addas mai Cymdeithas Lyfrau Ceredigion a gyhoed-dodd dwy gyfrol Harri Williams ar gerddorion, 'Chwech o Gewri Cerdd' (1962) a `Rhagor o Gewri Cerdd' (1967). Cafodd plant llawer cenhedlaeth flas ar y cyfrolau hyn.
 
Eithr ni fu ei ymlyniad diwyro wrth lenydda yn foddion i ymgilio rhag pobl. I'r gwrthwyneb, ymddiddorai'n fawr mewn bob' a'u cynefin. Gwelir hyn yn ei lyfrau taith, `Crwydro Cernyw' (1971) a `Crwydro'r Ynys Hir' (1968). Ac, wrth gwrs, credai'n gryf mai bugeilio pobl oedd swyddo-gaeth bwysicaf y gweinidog. Yn un o'i ysgrifau dyfynna ddiwinydd a ddywedodd: "Dywedwch wrthyf beth yw eich syniad am ddyn, ac mi ddywedaf wrthych pa fath o fugail ydych." Ei gonsyrn am bobl a'i gwnaeth yn awdur mor llwyddiannus wrth gyflwyno syniadau crefyddol i leygwyr. Mae'r ddawn hon o boblogeiddio athrawiaethau dyrys a'u cyflwyno i eraill yn hynod o brin, ac yn sicr llwyddodd i gyrraedd cynulleidfa eang o ddarllenwyr: e.e. gwerthwyd yr holl stoc o'i gyfrolau, 'Y Ddaeargryn Fawr' a `Duw a Phob Daioni', yn fuan wedi eu cyhoeddi. Ef ond odid oedd ein hawdur mwyaf poblogaidd yn ei feysydd dewisedig.
 
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cynyddodd ei ddiddordeb yn hanes diwylliant a chrefydd Cymru yn y ganrif ddiwethaf. Cyhoeddwyd ei Ddarlith Davies `Duw, Daeareg a Darwin' yn gyfrol ar ddydd ei thraddodi ym Mhenygroes, Sir Gar yn 1979. Ychydig ddyddiau cyn ei farw bu'n darlithio ar John Phillips (brodor o Bontrhydfendigaid), sylfaenydd y Coleg Normal, Bangor, yn y coleg hwnnw ar achlysur dathlu 125 mlynedd ei sefydlu, a bwriadai gyhoeddi cofiant llawn iddo. Roedd hefyd yn ddarlledwr cyson ar amryfal bynciau a chyfrannodd lu o sgriptiau i'r radio ar hyd y blynyddoedd. Yn ddiweddar paratodd sgriptiau ar Kierkegaard a Luther ar gyfer S4C.
JTW
 
==Nodweddion ei ysgrifau adaryddol a'i ddyddiadur adarydda==