Dyddiadur Adarydda y Parch. Harri Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 11:
Bu farw'r Athro Harri Williams yn sydyn fore Llun Ionawr 31, [1983] yn 69 mlwydd oed. Brwydrodd ar hyd ei oes yn erbyn afiechyd blin a threuliodd fisoedd mewn ysbytai. Cofnododd ei brofiadau yno yn y gyfrol Ward 8 (1963). Ond ni lwyddodd gwendid corfforol i lesteirio ei egni a'i ymroddiad i bregethu, i ddarlithio ac i lenydda — gorchwylion a gyflawnodd hyd yr eithaf hyd ddiwedd ei oes.
 
Yn ei hoff [[Ynys Môn|Sir Fôn]], yn y [[Marian-glas]], yr oedd ei wreiddiau, ond treuliodd y rhan fwyaf o'i ieuenctid yn Lerpwl. Nid adnabu ei dad, capten llong a foddwyd oddi ar orllewin Affrica yn fuan wedi iddo ef gael ei eni, a bu ei fam farw cyn iddo gyrraedd ei arddegau. Fe'i magwyd ef a'i frawd a'i chwiorydd gan fodryb yn [[Lerpwl]].
 
Bu'n ddisgybl yn ysgol enwog y [[Collegiate]] ac yna aeth am bum mlynedd i weithio mewn swyddfa. I'r cyfnod hwn yn ddiau y dylid priodoli ei ddiddordeb parhaol mewn eco-nomeg[[economeg]] a [[mathemateg]]. Fe'i perswadiwyd gan ei weinidog i fynd yn syth o'r swyddfa i [[Prifysgol Rhydychen|Brifysgol Rhydychen]] i ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth. Aeth yno yn [[1934]] i astudio Diwinyddiaeth yng [[Cymdeithas y Santes Catrin|Nghymdeithas y Santes Catherine]] gan arbenigo mewn [[athroniaeth crefydd]] dan gyfarwyddyd athro adnabyddus, [[A. M. Farrer]]. Yn y cyfnod cynnar yma dechreuodd ysgrifennu yn Gymraeg ac yn y gyfrol '[[Oni Threngodd Duw]]?' (1975) gwelir rhai o'i erthyglau cynharaf yn ogystal a rhai diweddarach sy'n amlygu ei ddiddordeb dwfn yn natblygiadau diweddaraf y cyfnod mewn [[diwinyddiaeth]] ac athroniaeth a'i awydd i'w cyflwyno i ddarllenwyr y Gymraeg. Wedi blwyddyn yng [[Coleg y Bala|Ngholeg y Bala]] ar ôl graddio gydag anrhydedd mewn diwinyddiaeth yn Rhydychen, aeth yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd i [[Tywyn|Dywyn]], wedi hynny i [[Waunfawr]] ac yna i [[Bangor|Fangor]] cyn cael ei benodi yn 1964 i’r [[Coleg Diwinyddol, Aberystwyth]], i fod yn bennaeth cyntaf yr Adran Fugeiliol — adran a ganolbwyntiai ar baratoi myfyrwyr ar eu blwyddyn olaf ar gyfer y weinidogaeth. Ef oedd yn bennaf gyfrifol an gwrs sydd wedi ei gydnabod droeon fel un hynod werthfawr a chynhwysfawr ar gyfer y gwaith. Yn ogystal a’r dyletswyddau hyn darlithiai ar Ddiwinyddiaeth Fodern a’r [[moeseg|Foeseg]] i fyfyrwyr ar gyfer gradd a diploma'r Brifysgol. Gwelir peth o ffrwyth y llafur hwn yn ei gyfrolau, '[[Y Cristion Cyfoes]]' (1967); '[[Bonhoeffer]]. (1981) yn y gyfres '[[Y Meddwl Modern]]', a `[[Duw a Phob Daioni]] (1978).
 
Ar hyd ei yrfa bu'n eang iawr ei ddiddordebau a mynnai gysylltu diwinyddiaeth a diwylliant yn gyffredinol, ac yn arbennig â [[llenyddiaeth]] ac â [[cerddoriaeth|cherddoriaeth]]. Darllenai'n eang ymysg awduron cyd-genedlaethol ac adlewyrchid hyn yn y cyfrolau a'i dygodd yn ddiau i sylw cylch ehangach o ddarllenwyr, sef '[[Y Ddaeargryn Fawr]]', cyfrol ar ffurf hunangofiant y meddyliwr mawr o [[Denmarc |Ddenmarc]], [[Kierkegaard]], a '[[Deunydd Dwbl]]', (1982), nofel am [[Dostoiefsci]] y Rwsiad. Ennillodd y gyntaf glod uchel pan ddyfarnwyd iddo'r [[Medal Ryddiaith|Fedal Ryddiaeth]] yn [[Eisteddfod Gened-laethol Caerdydd 1978]], ac er i'r ail fethu a chipio'r wobr am nofel yn [[Eisteddfod Machynl-lethMachynlleth 1981|Eisteddfod Machynlleth]] yn 1981 fe'i galwyd gan [[D. Tecwyn Lloyd]], un o'n beirniaid llenyddol praffaf, yn gamp-waithgampwaith.
 
Ai ei ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth yn ôl i'w blentyndod yng nghwmni ei frawd, [[W. Albert Williams]]. Apwyntiwyd ef yn Drefnydd Cerdd Sir Aber ni teifiAberteifi ar ddiwedd y rhyfel byd diwethaf, ond bu farw cyn cael cychwyn ar ei waith. Roedd hi'n hynod addas mai Cymdeithas Lyfrau Ceredigion a gyhoed-doddgyhoeddodd dwy gyfrol Harri Williams ar gerddorion, '[[Chwech o Gewri Cerdd]]' (1962) a `[[Rhagor o Gewri Cerdd]]' (1967). Cafodd plant llawer cenhedlaeth flas ar y cyfrolau hyn.
 
Eithr ni fu ei ymlyniad diwyro wrth lenydda yn foddion i ymgilio rhag pobl. I'r gwrthwyneb, ymddiddorai'n fawr mewn bob'pobl a'u cynefin. Gwelir hyn yn ei lyfrau taith, `[[Crwydro Cernyw]]' (1971) a `[[Crwydro'r Ynys Hir]]' (1968). Ac, wrth gwrs, credai'n gryf mai bugeilio pobl oedd swyddo-gaethswyddogaeth bwysicaf y gweinidog. Yn un o'i ysgrifau dyfynna ddiwinydd a ddywedodd: "Dywedwch wrthyf beth yw eich syniad am ddyn, ac mi ddywedaf wrthych pa fath o fugail ydych." Ei gonsyrn am bobl a'i gwnaeth yn awdur mor llwyddiannus wrth gyflwyno syniadau crefyddol i leygwyr. Mae'r ddawn hon o boblogeiddio athrawiaethau dyrys a'u cyflwyno i eraill yn hynod o brin, ac yn sicr llwyddodd i gyrraedd cynulleidfa eang o ddarllenwyr: e.e. gwerthwyd yr holl stoc o'i gyfrolau, '[[Y Ddaeargryn Fawr]]' a `[[Duw a Phob Daioni]]', yn fuan wedi eu cyhoeddi. Ef ond odid oedd ein hawdur mwyaf poblogaidd yn ei feysydd dewisedig.
 
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cynyddodd ei ddiddordeb yn hanes diwylliant a chrefydd [[Cymru]] yn y ganrif ddiwethaf. Cyhoeddwyd ei Ddarlith Davies `[[Duw, Daeareg a Darwin]]' yn gyfrol ar ddydd ei thraddodi ym [[Penygroes|Mhenygroes]], Sir GarGâr yn 1979. Ychydig ddyddiau cyn ei farw bu'n darlithio ar [[John Phillips]] (brodor o [[Pontrhydfendigaid|Bontrhydfendigaid]]), sylfaenydd y [[Coleg Normal, Bangor]], yn y coleg hwnnw ar achlysur dathlu 125 mlynedd ei sefydlu, a bwriadai gyhoeddi cofiant llawn iddo. Roedd hefyd yn ddarlledwr cyson ar amryfal bynciau a chyfrannodd lu o sgriptiau i'r radio ar hyd y blynyddoedd. Yn ddiweddar paratodd sgriptiau ar Kierkegaard a [[Luther]] ar gyfer S4C.
JTW</blockquote>