Dyddiadur Adarydda y Parch. Harri Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 17:
Ar hyd ei yrfa bu'n eang iawr ei ddiddordebau a mynnai gysylltu diwinyddiaeth a diwylliant yn gyffredinol, ac yn arbennig â [[llenyddiaeth]] ac â [[cerddoriaeth|cherddoriaeth]]. Darllenai'n eang ymysg awduron cyd-genedlaethol ac adlewyrchid hyn yn y cyfrolau a'i dygodd yn ddiau i sylw cylch ehangach o ddarllenwyr, sef '[[Y Ddaeargryn Fawr]]', cyfrol ar ffurf hunangofiant y meddyliwr mawr o [[Denmarc |Ddenmarc]], [[Kierkegaard]], a '[[Deunydd Dwbl]]', (1982), nofel am [[Dostoiefsci]] y Rwsiad. Ennillodd y gyntaf glod uchel pan ddyfarnwyd iddo'r [[Medal Ryddiaith|Fedal Ryddiaeth]] yn [[Eisteddfod Gened-laethol Caerdydd 1978]], ac er i'r ail fethu a chipio'r wobr am nofel yn [[Eisteddfod Machynlleth 1981|Eisteddfod Machynlleth]] yn 1981 fe'i galwyd gan [[D. Tecwyn Lloyd]], un o'n beirniaid llenyddol praffaf, yn gampwaith.
 
AiÂi ei ddiddordeb mawr mewn cerddoriaeth yn ôl i'w blentyndod yng nghwmni ei frawd, [[W. Albert Williams]]. Apwyntiwyd ef yn Drefnydd Cerdd Sir Aberteifi ar ddiwedd y rhyfel byd diwethaf, ond bu farw cyn cael cychwyn ar ei waith. Roedd hi'n hynod addas mai Cymdeithas Lyfrau Ceredigion a gyhoeddodd dwy gyfrol Harri Williams ar gerddorion, '[[Chwech o Gewri Cerdd]]' (1962) a `[[Rhagor o Gewri Cerdd]]' (1967). Cafodd plant llawer cenhedlaeth flas ar y cyfrolau hyn.
 
Eithr ni fu ei ymlyniad diwyro wrth lenydda yn foddion i ymgilio rhag pobl. I'r gwrthwyneb, ymddiddorai'n fawr mewn pobl a'u cynefin. Gwelir hyn yn ei lyfrau taith, `[[Crwydro Cernyw]]' (1971) a `[[Crwydro'r Ynys Hir]]' (1968). Ac, wrth gwrs, credai'n gryf mai bugeilio pobl oedd swyddogaeth bwysicaf y gweinidog. Yn un o'i ysgrifau dyfynna ddiwinydd a ddywedodd: "Dywedwch wrthyf beth yw eich syniad am ddyn, ac mi ddywedaf wrthych pa fath o fugail ydych." Ei gonsyrn am bobl a'i gwnaeth yn awdur mor llwyddiannus wrth gyflwyno syniadau crefyddol i leygwyr. Mae'r ddawn hon o boblogeiddio athrawiaethau dyrys a'u cyflwyno i eraill yn hynod o brin, ac yn sicr llwyddodd i gyrraedd cynulleidfa eang o ddarllenwyr: e.e. gwerthwyd yr holl stoc o'i gyfrolau, '[[Y Ddaeargryn Fawr]]' a `[[Duw a Phob Daioni]]', yn fuan wedi eu cyhoeddi. Ef ond odid oedd ein hawdur mwyaf poblogaidd yn ei feysydd dewisedig.