Athro cadeiriol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Trefelio (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1:
Swydd a safle academaidd mewn [[Prifysgol|prifysgolion]] a sefydliadau ymchwil yw '''athro cadeiriol''' neu '''athro prifysgol'''. Bydd [[darlithydd]] sy'n codi yn y rhengoedd yn troi'n [[uwch ddarlithydd]], ac wedyn yn [[darllenydd|ddarllenydd]] cyn cyrraedd uchafbwynt academaidd fel athro. Fel arfer, bydd athro yn arbenigwr yn eu maes ymchwil ac yn cael eu cydnabod fel addysgwyr ar y lefel uchaf. Yng nghyd-destun athro cadeiriol, defnyddir athro (nid ''athrawes'') i gyfeirio at ferched a dynion. Cydnabyddir statws athro drwy ei ddefnyddio fel teitl o flaen eu henw, e.e. '''Yr Athro Angharad Price'''.<ref>{{cite web|url=https://www.bangor.ac.uk/ysgolygymraeg/newyddion/yr-athro-angharad-price-yn-ennill-categori-r-dramodydd-gorau-31204|title=Yr Athro Angharad Price yn ennill categori'r Dramodydd Gorau|date=27 Chwefror 2017|website=Prifysgol Bangor|access-date=1 Mai 2021}}</ref>
 
Ystyrir ei bod yn bwysig cael athro mewn adran brifysgol.<ref>{{cite web|url=https://golwg.360.cymru/newyddion/cymru/556846-prifysgol-aberystwyth-penodi-athro-adran-gymraeg|title=Prifysgol Aberystwyth “ar fin” penodi Athro i’r Adran Gymraeg|website=Golwg360|access-date=1 Mai 2021}}</ref> Gellir dyfarnu cadeirydd anrhydeddus i rywun nad yw'n gweithio yn y brifysgol ond sy'n gallu cyfrannu gwybodaeth arbenigol.<ref>{{cite web|url=https://www.bangor.ac.uk/human-sciences/newyddion/ymchwilydd-rhyngwladol-nodedig-a-chynghorwr-iechyd-cyhoeddus-yn-derbyn-cadair-er-anrhydedd-20773|title=Ymchwilydd Rhyngwladol Nodedig a Chynghorwr Iechyd Cyhoeddus yn Derbyn Cadaer er Anrhydedd|website=Prifysgol Bangor|access-date=1 Mai 2021}}</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Gweler hefyd==